Gobaith ailagor Lido Brynaman erbyn haf 2021
- Cyhoeddwyd
Mae pwll nofio awyr agored sydd wedi cau ers degawd wedi ei drosglwyddo i grŵp o bobl leol sy'n bwriadu ei ailagor.
Fe gaeodd Lido Brynaman yn 2010 ar ôl i storm achosi difrod oedd yn rhy ddrud i wirfoddolwyr a'r cyngor sir ei drwsio.
Roedd y baths, gafodd eu hadeiladu yn ystod y 1930au gan lafurwyr di-waith, yn denu tua 2,000 o ymweliadau bob haf.
Roedd gwirfoddolwyr yn rhedeg y lido ac roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gofalu am y gwaith cynnal a chadw a darparu achubwyr bywyd.
Cau wedi storm
Degawd yn ôl, wedi stormydd a gaeaf caled, daeth bil gwerth £20,000 i drwsio'r baths ar ôl i'r tywydd achosi difrod i'r draeniau a'r tŷ pwmp.
Wedi difrod pellach gan stormydd fe gododd y bil i £170,000.
Dydy'r pwll ddim wedi ailagor ers hynny.
Pan adeiladwyd y pwll 30x15m, defnyddiodd gwirfoddolwyr fwyelli, rhawiau, berfau olwyn a thramiau gafodd eu benthyg gan lofeydd Dyffryn Aman.
Roedd llawer o'r gwirfoddolwyr yn lowyr oedd yn cael paced o 10 sigarét neu siocled am ddiwrnod o waith.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin bellach wedi cymeradwyo trosglwyddo'r pwll yn ôl i'r gymuned.
'Wedi dirywio cryn dipyn'
"Mae'n golygu y gallwn ni fwrw ymlaen a chodi arian i'w ailagor," meddai Jason Rees, o Bwyllgor Lido Brynaman.
Mae'r pwyllgor wedi bod yn edrych ar ffyrdd i gynhesu'r dŵr fel bod modd agor nid yn ystod misoedd yr haf yn unig.
"Mae wedi dirywio cryn dipyn ond mae siâp sylfaenol y pwll yn dal i fod yma," meddai Mr Rees.
Bydd y gwaith sylfaenol o ail-agor y baths drwy osod pibellau a thŷ boeler newydd yn costio tua £500,000.
Gobaith y pwyllgor yw sicrhau nifer o grantiau i gwblhau'r gwaith adnewyddu.
"Dyw e ddim yn waith enfawr ond mae yna bethau eraill fel sut i gynhesu'r dŵr a'i lanhau mewn ffyrdd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd," meddai Mr Rees.
Yr uchelgais yw ailagor Lido Brynaman erbyn haf 2021.
Un syniad ydy gosod system hidlo sy'n defnyddio glo carreg i lanhau'r dŵr.
"Mae 'na rywbeth eitha' braf am y syniad gan mai glowyr Dyffryn Aman dalodd ac a wnaeth y gwaith adeiladu dros 80 o flynyddoedd yn ôl," meddai Mr Rees.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018