Achub pedwar person o lifogydd yn Nolgellau dros nos

  • Cyhoeddwyd
DolgellauFfynhonnell y llun, Iolo Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o'r A470 ynghau ger Dolgellau oherwydd y llifogydd

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr achub pedwar o bobl wedi i ddau gar fynd yn sownd mewn llifogydd yn Nolgellau dros nos.

Dywedodd tîm achub Aberdyfi, gafodd eu galw i helpu'r heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub, bod dau oedolyn a phlentyn wedi'u hachub o un car, a bod un dyn wedi'i achub o fan.

Roedd rhannau o'r A470 yn yr ardal ynghau am bron i 10 awr wedi i'r ceir fynd yn sownd toc wedi 04:00 fore Sadwrn.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru fe wnaeth Afon Wnion yn Nolgellau gyrraedd ei lefel uchaf ar gofnod dros nos - bron i 4m.

Y lefel uchaf cyn hynny oedd 3.75m ym mis Chwefror 2005.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwyafrif y dŵr wedi cilio oddi ar yr A470 erbyn amser cinio ddydd Sadwrn, cyn iddi ailagor yn fuan wedi hynny

Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer canolbarth a de Cymru rhwng 22:00 nos Sadwrn ac 11:00 ddydd Sul.

Mae naw rhybudd llifogydd mewn grym, dolen allanol yng Nghymru ddydd Sadwrn - dau yn y gogledd-ddwyrain a saith yn y canolbarth.

Mae cymunedau yn ne Cymru yn parhau'r gwaith clirio wedi Storm Dennis, gyda thua 75 o wirfoddolwyr yn helpu i glirio Parc Biwt yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod y criw wedi clirio chwe thunnell o weddillion oedd wedi cael ei gario yno gan lif Afon Taf.

Mae pobl hefyd yn helpu yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd, gafodd ei adael dan ddŵr wedi i'r afon orlifo y penwythnos diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Reuters/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd arall am law trwm mewn grym rhwng 22:00 nos Sadwrn ac 11:00 ddydd Sul

Fe wnaeth y Tywysog Charles ymweld â phobl a busnesau sydd wedi dioddef effaith llifogydd yn ne Cymru yn dilyn Storm Dennis ddydd Gwener.

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan yn amcangyfrif y bydd y difrod i isadeiledd y cyngor yn costio hyd at £30m i'w drwsio.

Ychwanegodd Mr Morgan y byddai Lido Pontypridd ar gau am weddill 2020 oherwydd y difrod a achoswyd yn ystod y storm, ac y bydd Parc Ynysangharad ynghau am o leiaf deufis.