Taith Cymru i Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
eurosFfynhonnell y llun, Simon Stacpoole/Offside

Bydd carfan tîm pêl-droed Cymru'n mwynhau'r Nadolig gan wybod y byddant yn chwarae ym Mhencampwriaethau Euro 2020 yr haf nesaf.

Ar 13 Mehefin bydd Cymru'n wynebu'r Swistir yn Baku, yna gemau yn erbyn Twrci a'r Eidal, cyn gobeithio ennill lle yn rownd yr 16 olaf.

Ond nid oedd cyrraedd y rowndiau terfynol yn hawdd i'r tîm cenedlaethol, cafwyd dechreuad digon anodd i'r ymgyrch. Felly dyma ail-fyw'r daith i Euro 2020.

Cymru 1-0 Slofacia

24 Mawrth, 2019

Dechreuodd ymgyrch Cymru gyda buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn erbyn Slofacia. Dan James sgoriodd unig gôl y gêm yn y pum munud cyntaf, ac roedd rhaid i Hennessey wneud arbediadau yn y 10 munud olaf i atal Slofacia rhag unioni'r sgôr.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Dan James yn dathlu sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru

Croatia 2-1 Cymru

8 Mehefin, 2019

Dwy gêm oddi cartref mewn tri diwrnod oedd hi wedyn, gan golli'r gyntaf yn y gwres tanbaid yn Osijek. Cododd y tymheredd i dros 30C gradd yn Stadion Gradski, a thîm ifanc Cymru'n ei chael hi'n anodd dal 'mlaen yn erbyn chwaraewyr o safon Luka Modrić ac Ivan Perišić.

Sgoriodd James Lawrence i'w gôl ei hun, ac fe sgoriodd Perišić i ddyblu mantais Croatia. Sgoriodd yr eilydd David Brooks ei gôl gyntaf dros Gymru i'w gwneud hi'n 2-1, ac felly arhosodd hi am weddill y gêm er i Gymru gael cyfleoedd i hawlio gêm gyfartal.

Ffynhonnell y llun, DENIS LOVROVIC
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru wedi'r golled yn Osijek

Hwngari 1-0 Cymru

11 Mehefin, 2019

Colli oedd hanes Cymru yn Budapest hefyd, a hynny o 1-0 diolch i gôl gan Máté Pátkai yn hwyr yn y gêm. Roedd hi'n noson rwystredig iawn i garfan Cymru, a adawodd eu gobeithion o gyrraedd Euro 2020 mewn cyflwr bregus iawn.

Ffynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Yr ymosodwr Ádám Szalai (rhif naw) a gweddill carfan Hwngari yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Cymru

Cymru 2-1 Azerbaijan

6 Medi, 2019

Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan gartref mis Medi yn un gwbl angenrheidiol. Dyma gêm a oedd, ar bapur, yr hawsaf un o holl ymgyrch Cymru. Gareth Bale oedd yr arwr gan sgorio gydag ond chwe munud o'r gêm yn weddill i roi'r fuddugoliaeth i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn dathlu cipio buddugoliaeth i Gymru

Slofacia 1-1 Cymru

10 Hydref, 2019

Fe brofodd y pwynt yma yn Trnava yn hollbwysig er mwyn cadw'r gobaith o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn fyw.

Eiliadau wedi i Gareth Bale daro trawst y gôl gydag ergyd fe sgoriodd ymosodwr Wigan, Kieffer Moore ei gôl gyntaf dros Gymru. Sgoriodd Juraj Kucka dros Slofacia yn gynnar yn yr ail hanner ac oni bai am arbediad gwych gan Wayne Hennessey fe fyddai wedi cael ail gôl.

Ffynhonnell y llun, VLADIMIR SIMICEK
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn dathlu ei gôl gyntaf dros Gymru

Cymru 1-1 Croatia

13 Hydref, 2019

Gyda tair gêm o'r ymgyrch ar ôl, yr amcan i Gymru oedd peidio â cholli gêm arall. Roedd wynebu Croatia, a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd, yn dasg anodd.

Sgoriodd y chwaraewr ganol cae Nikola Vlašić yn gynnar i roi Croatia ar y blaen. Ond fe sgoriodd arwr Cymru, Gareth Bale, unwaith eto i unioni'r sgôr a sicrhau pwynt gwerthfawr i Gymru.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn gwibio heibio Ivan Rakitić

Azerbaijan 0-2 Cymru

16 Tachwedd, 2019

Os oedd Azerbaijan yn cael ei ystyried fel tîm pêl-droed sâl fe ddylai'r fuddugoliaeth agos 2-1 yng Nghaerdydd ym mis Medi wedi bod yn agoriad llygaid i gefnogwyr Cymru.

Roedd yr Azeri'n drefnus a gweithgar, ond llwyddodd Cymru i ennill gyda buddugoliaeth gyfforddus. Kieffer Moore a Harry Wilson oedd y sgorwyr, gyda'r canlyniad yn golygu bod y cyfan yn y fantol yn y gêm olaf yn erbyn Hwngari.

Ffynhonnell y llun, Aziz Karimov
Disgrifiad o’r llun,

Harry Wilson yn dathlu sgorio ail gôl Cymru yn Baku

Cymru 2-0 Hwngari

19 Tachwedd, 2019

Ac felly i gêm ola'r ymgyrch, Hwngari gartref. Roedd Cymru'n gwybod bod eu tynged yn eu dwylo'u hunain, ac y byddai buddugoliaeth yn erbyn Hwngari yn sicrhau lle yn Euro 2020.

Seren Juventus, Aaron Ramsey oedd yr arwr gan sgorio dwy gôl i'r cochion, un ym mhob hanner. Dyma oedd cyfle cyntaf Ryan Giggs i ddewis Ramsey a Gareth Bale i ddechrau gêm gyda'u gilydd ers cymryd yr awenau fel rheolwr.

Roedd dathlu mawr yng Stadiwm Dinas Caerdydd wedi i Gymru sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop am yr ail waith yn olynol.

Ffynhonnell y llun, Simon Stacpoole/Offside

Hefyd o ddiddordeb: