Dedfryd hir o garchar am lofruddiaeth bwa croes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio pensiynwr trwy ei saethu gyda bwa croes.
Bydd yn rhaid i Terence Whall, 39 oed o Fryngwran, dreulio o leiaf 31 mlynedd dan glo am saethu Gerald Corrigan tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi fis Ebrill y llynedd.
Bu farw Mr Corrigan, 74, o'i anafiadau yn yr ysbyty wythnosau yn ddiweddarach.
Dywedodd y Barnwr yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug, Mrs Ustus Nerys Jefford bod y llofruddiaeth yn un "fileinig".
"Am eich rhesymau eich hun, roedd gyda chi gynllun i ladd," meddai wrth y diffynnydd. "Rydych wedi amddifadu teulu Mr Corrigan o esboniad.
"Roedd eich hyder trahaus y byddech chi'n osgoi cyfiawnder am lofruddiaeth yn gyfeiliornus."
Ond dywedodd nad oedd yn gallu bod yn sicr ai cael arian oedd y cymhelliad, er bod Whall mewn dyled.
Ychwanegodd y barnwr fod Whall wedi parhau gyda'i fywyd "fel petae dim wedi digwydd" ond roedd wedi cynllunio'r llofruddiaeth yn fanwl.
Roedd y therapydd chwaraeon a hyfforddwr personol hefyd, meddai, "yn gwybod yn iawn" mai hela anifeiliaid oedd pwrpas yr arfau a ddefnyddiodd a bod rheiny "wedi eu dylunio i ladd".
Dywedodd y barnwr ei bod yn sicr bod Whall wedi ymyrryd â dysgl lloeren Mr Corrigan er mwyn ei ddenu allan o'r tŷ.
Doedd dim emosiwn ar wyneb Whall wrth gael ei ddedfrydu.
Bywyd yn 'hunllef'
Fe ddarllenodd cymar Mr Corrigan, Marie Bailey, ddatganiad pwerus o du ôl i sgrin, gan ddweud bod ei bywyd yn "hunllef" ers noson yr ymosodiad arno.
"Roedd Gerry'n ddyn eithriadol, fy ffrind gorau am bron 30 mlynedd," meddai am y cyn-ddarlithydd oedd yn gofalu amdani â hithau â'r cyflwr sglerosis ymledol.
"Roedd yn gwneud i mi deimlo'n saff... rŵan dwi ar ben fy hun... mae anobaith yn fy llethu."
"Doedd gan Gerry ddim gobaith," meddai am yr ymosodiad, a ddigwyddodd wrth iddo drwsio lloeren deledu ar wal ei dŷ yn oriau mân y bore ar 19 Ebrill 2019.
"Roedd ei gefn wedi troi. Chafodd o mo'r cyfle i amddiffyn ei hun.
"Ro'n i'n ddiymadferth. Fedrwn i wneud dim i'w helpu.
"Mae'n rhaid bod y boen yn arteithiol... bu'n rhaid i mi ei wylio yn marw yn araf."
Arf 'barbaraidd'
Roedd mab Mr Corrigan, Neale Corrigan, yn ei ddagrau wrth ofyn yn ystod ei ddatganiad yntau: "Sut gall unrhyw un fod eisiau achosi gymaint o boen i fy nhad?
"Roedd yn ganoloesol. Sut gall unrhyw un ddewis i ddefnyddio arf mor farbaraidd ar hen ddyn?
"Rwy'n gobeithio un diwrnod y byddai'n gallu cofio'r amseroedd da a stopio cael fy arteithio gan atgofion drwg."
Dywedodd merch Mr Corrigan, Fiona Corrigan, ei bod yn dioddef hunllefau, paranoia a phyliau panig ers yr ymosodiad.
"Dydw i ddim yn gweithio ar hyn o bryd ohewydd mae yna ddyddiau pan na alla'i godi o'r gwely.
"Mae fy nghymar yn gorfod gafael ynof imi stopio crio a chrynu fel 'mod i'n gallu cysgu gyda'r nos."
Cafodd Whall ddedfryd o chwe blynedd o garchar am gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder, i gydredeg â'r brif ddedfryd.
Cafodd dyn 36 oed o Fangor, Gavin Jones, ddedfryd o bum mlynedd o garchar ar ôl i'r llys ei gael yn euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Bydd yn rhaid iddo gwblhau hanner y ddedfryd dan glo a'r gweddill ar barôl dan drwydded
Roedd dau ddiffynnydd arall wedi pledio'n euog i gynnau tân yn fwriadol yn gynharach yn yr achos - cyhuddiad yn ymwneud â llosgi'r cerbyd Land Rover y defnyddiodd Whall pan saethodd Mr Corrigan.
Cafodd Darren Jones, sy'n 41 oed ac o Benrhosgarnedd, ddedfryd o ddwy flynedd a 10 mis o garchar.
Ar ei ben-blwydd yn 35 oed, cafodd Martin Roberts o Fangor ddedfryd o ddwy flynedd a phedwar mis o garchar.
Fe gymeradwyodd y barnwr ymchwiliad "diwyro a thrylwyr" yr heddlu, yn niffyg llygad dystion, cymhelliad ac unigolion amlwg i'w drwgdybio.
Mewn datganiad yn croesawu'r dedfrydau dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod Mr Corrigan "yn ddioddefwr diniwed i lofruddiaeth farbaraidd".
Dywed y llu bod yr ymchwiliad yn un cymhleth oedd wedi cael cymorth gan arbenigwyr proffesiynol, ond bod tystiolaeth pobl leol, twristiaid a busnesau hefyd wedi helpu sicrhau'r euogfarnau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020