Cydnabod cyfraniad rhagor ar restr 100 Menywod Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Non Stanford, Jane Hutt, Dr Victoria Winkler ac Uzo Iwobi
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Non Stanford, Jane Hutt, Dr Victoria Winkler ac Uzo Iwobi

Mae Non Stanford, Jemima Niclas a Jane Hutt ymhlith y 15 o fenywod sydd wedi cael eu hychwanegu at restr yn cydnabod eu cyfraniad i fywyd yng Nghymru.

Cafodd rhestr 100 Menywod Cymreig ei llunio yn 2018 i nodi cyfraniad 50 o fenywod sy'n fyw heddiw, a chofio am 50 o ferched pwysig yn hanes y genedl.

Yn dilyn hynny cafwyd pleidlais gyhoeddus i ddewis un o'r merched hanesyddol hynny fyddai'n cael cerflun ohoni yng nghanol Caerdydd, gyda Betty Campbell yn dod i'r brig.

Mae'r enwau diweddaraf wedi cael eu hychwanegu gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020 ar 8 Mawrth.

'Campau ysbrydoledig'

Yn eu plith mae 12 o fenywod sy'n weithredol yn eu maes heddiw, a thair dynes o'r gorffennol wnaeth gyfraniad hanesyddol yn eu meysydd eu hunain.

"Mae ein 100 o fenywod Cymreig wedi gwneud cyfraniad mawr i wleidyddiaeth, iaith, chwaraeon, diwylliant, gwyddoniaeth a diwydiant yng Nghymru," meddai Catherine Fookes, cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru.

"Mae ffigyrau adnabyddus iawn ar y rhestr, ond mae rhai enwau fydd pobl ddim yn gwybod, ac rydyn ni eisiau dathlu'r arwyr hynny hefyd."

Un o'r 15 enw ychwanegol ar y rhestr ydy Uzo Iwobi o Abertawe, sydd yn gyfreithiwr ac ymgynghorydd arbennig ar gydraddoldeb.

"Allai ddim disgrifio sut mae'n teimlo i glywed y newyddion gwych yma," meddai wrth sôn am ei henwebiad.

"Wrth edrych 'nôl ar fy hun yn cyrraedd Cymru yn 23 oed allen i ddim bod wedi dychmygu'r foment yma."

Ychwanegodd Non Stanford, sy'n gyn-bencampwr triathlon y byd, fod gweld ei henw ar y rhestr yn "fraint swrrealaidd".

"Rydw i'n hynod o falch o'n gwlad ni a'i hanes a'i threftadaeth gyfoethog, ac mae'r rhestr hon o fenywod syfrdanol a'u campau ysbrydoledig yn brawf o'r pethau gwych mae merched, gan gynnwys yn ein gwlad fach ni, yn gallu eu cyflawni," meddai.

Y 15 o fenywod sydd wedi'u hychwanegu at y rhestr yw:

  • Cheryl Beer - Cantores. storïwr, awdur

  • Bethan Darwin - cyfreithiwr a sylfaenydd 'Superwoman'

  • Suzy Davies - Aelod Cynulliad

  • Rabab Ghazoul - curadur a gweithredwr cymunedol

  • Uzo Iwobi - cyfreithiwr ac ymgynghorydd ar gydraddoldeb

  • Yr Athro Kamila Hawthorne - meddyg a darlithydd

  • Jane Hutt - Aelod Cabinet Llywodraeth Cymru

  • Linda James - ymgyrchydd ac addysgwr gwrth-fwlio

  • Llinos Medi - Arweinydd Cyngor Môn

  • Norena Shopland - hanesydd

  • Non Stanford - athletwraig

  • Dr Victoria Winckler - cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

  • Jemima Nicholas (1750-1832) - arwres ym mrwydr Abergwaun

  • Edith Picton-Turbervill (1872-1960) - Aelod Seneddol

  • Menna Gallie (1919 -1990) - Awdur