'Dwrn ffyrnig' wedi achosi marwolaeth tafarnwr 58 oed

  • Cyhoeddwyd
Mark WinchcombeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Winchcombe ei ddisgrifio gan ei weddw fel dyn "uchel ei barch yn y gymuned"

Mae llys wedi clywed sut y bu farw dyn 58 oed yn Sir Castell-nedd Port Talbot ar ôl cael ei daro gan "ddwrn ffyrnig" y tu allan i'r dafarn roedd yn ei rhedeg.

Cafodd Mark Winchcombe "anaf catastroffig i'w ymennydd" oriau ar ôl cael ei daro ger y Smiths Arms ym Mynachlog Nedd yn Sgiwen fis Medi y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mr Winchcombe a dau ddyn arall yn ceisio perswadio "gang o lanciau" i symud yn eu blaenau pan gafodd ei daro.

Mae bachgen 16 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad.

Ffrae eiriol

Dywedodd John Hipkin QC ar ran yr erlyniad bod y diffynnydd "allan ar y strydoedd" gyda ffrindiau yn oriau mân ddydd Sul, 1 Medi a'i fod wedi cymryd cocên.

Roedd yna "ffrae eiriol" rhwng y bobl ifanc a dyn o'r enw Geraint Morgan, ond doedd "dim trais o ganlyniad".

Cafodd Mr Winchcombe, oedd yn yfed yng nghwmni ffrindiau yn y dafarn ar y pryd, gais i "symud gang o lanciau" o du allan i'r adeilad.

Yn fuan wedi hynny roedd gyrrwr tacsi oedd yn digwydd mynd heibio, Stephen Davies, wedi ymuno â Mr Winchcombe a Mr Morgan.

Roedd Mr Davies yn nabod Mr Winchcombe ers "cwpwl o flynyddoedd" ac wedi stopio'i gar "gan boeni bod Mark mewn trwbl" a gweld os oedd yn gallu lleddfu'r sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Winchcombe yn rhedeg tafarn y Smiths Arms

Gwelodd y llys fideo gafodd ei dynnu ar ffôn un o'r llanciau.

Yn ôl Mr Hipkin, mae modd clywed y diffynnydd arno'n dweud wrth Mr Winchcombe, "dydw i ddim am dy daro, mêt, dydw i ddim am dy daro", eiliadau cyn i ddwrn honedig daro'n tafarnwr i'r ddaear.

Rhedodd pum aelod o'r criw o'r safle ond arhosodd un i geisio helpu Mr Winchcombe.

Cafodd ei gludo'n anymwybodol i Ysbyty Treforys, ble daeth llawfeddygon arbenigol i'r casgliad "yn fuan iawn" bod dim modd iddo wella o'r anaf i'r ymennydd.

Bu farw am 04:00 y bore hwnnw.

Negeseuon

Dywedodd Mr Hipkin bod y diffynnydd wedi gyrru dwy neges Snapchat i'w ffrindiau yn fuan wedi'r digwyddiad.

Roedd y cyntaf, meddai, yn dweud "wps", a'r ail yn dweud, "d'udwch wrthyn nhw i ddweud dim... bechgyn, ddylech chi ddim dweud dim byd".

Ar ran yr amddiffyn, gofynnodd Nicola Powell wrth Mr Davies a oedd Mr Morgan a Mr Winchcombe "yn dadlau'n ôl" gyda'r llanciau pan gyrhaeddodd, gan fod y fideo'n dangos y naill ochor yn rhegi ar y llall.

Cytunodd Mr Davies, ond dywedodd bod yna "ddim trais" a "dim bygythiad" gan fod hi'n achos o "ddau yn erbyn chwech".

Awgrymodd Ms Powell bod y diffynnydd wedi "herio" Mr Winchcombe i'w daro a bod hynny wedi ei wylltio, ond dywedodd Mr Davies na chlywodd unrhyw beth felly.

Mae'r achos yn parhau.