Dathlu 100 mlynedd (er ond yn 25 oed)
- Cyhoeddwyd
Mae troi'n 100 oed yn achlysur arbennig iawn, ond i Wil Thomas, sy'n wreiddiol o'r Tymbl, Sir Gâr, roedd yn ddiwrnod dipyn mwy anarferol na'r arfer.
Mae hynny oherwydd ei fod wedi ei eni ar 29 Chwefror 1920, ac felly er ei fod yn dathlu ei ganmlwyddiant eleni , dim ond 25 pen-blwydd mae wedi cael eu dathlu erioed!
Yn Dunedin, Seland Newydd, mae Wil yn byw bellach, a hynny wedi iddo a'i wraig, Audrey, allfudo yno yn nechrau'r chwedegau. Ar gwch roedd pobl yn teithio i ochr arall y byd bryd hynny, wrth gwrs.
Er eu bod yn byw mor bell i ffwrdd o'r famwlad ers cyhyd, dydi Cymru a'r Gymraeg erioed wedi bod yn bell o'u meddyliau.
Maen nhw wedi parhau i siarad Cymraeg â'i gilydd, fel oedden nhw'n ei wneud pan oedden nhw'n ifanc, ac fe roddon nhw enwau Cymraeg ar eu plant, Eleri ac Arwel.
Darlithydd mewn ffarmacoleg ym mhrifysgol Otago oedd Wil, ond byddai'n aml yn cystadlu mewn cystadlaethau ysgrifennu mewn eisteddfodau lleol yn ôl yn ei ardal enedigol.
Dyna pam fod ffrind i'r teulu, Hywel Williams, wedi penderfynu recordio fideo o gôr CF1 o Gaerdydd yn canu pen-blwydd hapus iddo.
"Ro'n i'n gwybod y byddai digon o ganu Happy Birthday iddo, ond dim llawer o Pen-blwydd Hapus!" meddai.
Daeth teulu, ffrindiau a chymdogion ynghyd i ddathlu diwrnod mawr Wil ddydd Sadwrn, 29 Chwefror.
Roedd llun ohono ar flaen papur newydd yr Otago Times, ac yn ôl Audrey, cafodd ambell i lythyr arbennig hefyd:
"Doedd gan Wil ddim syniad fod carden yn dod wrth y Frenhines, y Governor General ac un o'r llywodraeth. 'Shwd ffys' medde fe!"
Roedd un o'r gwesteion ym mharti Wil, Sam, hefyd yn dathlu pen-blwydd mawr dros y penwythnos, a hynny yn 30 oed.
Fel y dywedodd wrth Wil, mae felly bum mlynedd yn hŷn nag o!
Hefyd o ddiddordeb: