Bachgen saith oed yn nhîm bowlio mat byr dan 21 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen saith oed o Sir Gaerfyrddin yn dathlu ar ôl cael ei ddewis i chwarae ar gyfer tîm bowlio mat byr Cymru dan 21.
Dyw Hari Proctor o Drimsaran ond wedi bod yn chwarae'r gêm ers pum mis, ond mae eisoes wedi profi'n feistr ar y gamp.
Y gred yw taw Hari yw'r chwaraewr ifanca' erioed i gael ei gynnwys yn y garfan dan 21.
Mae'n dilyn yn ôl traed ei dad, Kieran, sydd wedi chwarae i dîm oedolion Cymru.
Dywedodd Hari, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Trimsaran, ei fod e'n "hapus" o gael ei ddewis yn y garfan.
Ychwanegodd ei dad, Kieran Proctor: "Dechreuodd e ddod i'r clwb 'da fi yn Trimsaran. Straight away ro'n i'n gweld bod talent ganddo. Mae'n natural.
"Chwaraeodd e competition yng Nghaerfyrddin. Gwelodd selectors Cymru, ac fe ofynnon nhw iddo fynd am dreial. Ni'n browd iawn.
"Mae e moyn practiso drwy'r amser. Heno, cyn dod mas, roedd e'n y passageway yn ymarfer."
Mae Ieuan Calford, sydd 14 oed, yn ymarfer gyda Hari yng Nghlwb Chwaraeon Trimsaran.
"Dechreuodd e bum mis yn ôl ac roedd yn dangos i bawb shwd mae chwarae," meddai Ieuan, sydd hefyd wedi cael ei ddewis ar gyfer y garfan.
"Roedd e'n sioc fawr i bawb pwy mor dda oedd e. Mae'n gwylio sut mae pawb yn bowlio ac yn dysgu bob dydd. Mae'n gamp fawr i gael ei ddewis. Mae e mor ifanc."
Cafodd Hari ei gynnwys yn y garfan ar ôl i'r dewiswyr ei weld yn chwarae mewn cystadleuaeth yng Nghaerfyrddin.
'Yn y tîm o'r dechrau'
Gethin Edwards, is-gadeirydd Cymdeithas Bowlio Mat Byr Sir Gaerfyrddin, oedd un o'r dewiswyr wnaeth sylwi ar ei dalentau.
"Mae pedigri gyda'i dad. Fe welson ni Hari a gofyn iddo gael shot i chwarae i Gymru, a chwaraeodd e yn arbennig," meddai.
"Mae'r dalent sydd gyda fe mor naturiol, ac mae'n cyrraedd y jac bob tro.
"Saith oed yw'r ifanca' dwi wedi gweld yn chwarae fel hyn. Bues i a thri arall yn dewis y tîm, ac roedd angen 30 o enwau.
"Roedd hi'n job, ond roedd Hari yn y tîm o'r dechrau.
"Mae lot o'r chwaraewyr yn 15 hyd at 21, ac mae gan Hari ddigon o flynyddoedd i fynd. Bydden i'n meddwl taw Hari yw'r ifanca' i fod yn rhan o sgwad Cymru."
Fe fydd Hari yn y tîm i herio Lloegr ar 28 Mawrth, ac yn dathlu ei ben-blwydd yn wyth oed dridiau ynghynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020