Gwersi perthynas iach pobl ifanc 'ddim bob tro'n ddigon'
- Cyhoeddwyd
Dyw gwersi am berthynas iach i bobl ifanc ddim yn ddigon bob tro ac mae angen mwy o gefnogaeth ar ddioddefwyr ifanc mewn achosion o drais yn y cartref, yn ôl arbenigwyr ym maes diogelu plant.
Yn ôl Catherine Hill o elusen Gwasanaethau Trais yn y Cartref Phoenix yng Ngwent, mae gwersi mewn ysgolion am berthynas iach yn hanfodol.
Ond dywedodd bod rhaid rhagweld y gall sesiynau o'r fath arwain at bobl ifanc yn datgelu gwybodaeth.
"Tra'i fod yn bwysig i godi ymwybyddiaeth o ddealltwriaeth pobl ifanc am yr hyn y mae 'iach' yn ei olygu - rhaid i chi sicrhau fod digon o gefnogaeth i gyfeirio unrhyw wybodaeth yn ei flaen os oes angen," meddai.
"Rhaid i chi ofyn y cwestiynau. Ond rhaid i ni fod yn ymwybodol os ydym yn eu gofyn a does nunlle iddyn nhw fynd, rydym yn agor llond lle o broblemau heb y gwasanaeth priodol i'w cefnogi."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu cynghorau ac elusennau i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am drais yn y cartref.
'Loteri cod post'
Dywedodd Nicola Fitzpatrick o wasanaeth digartrefedd Llamau, fod y ddarpariaeth ar draws Cymru'n "loteri cod post".
Mae'r elusen yn un o nifer o elusennau sy'n rhedeg sesiynau perthynas iach mewn clybiau ieuenctid ac ysgolion.
Mae'r gwersi'n defnyddio iaith addas ar gyfer y to iau i edrych ar berthnasau positif a negatif ymysg pobl ifanc.
"Yng Nghymru mae gennym ddeddfwriaeth wych sy'n adnabod achosion pan fod plant angen ymyrraeth gynnar gan wasanaethau, ond er mwyn ariannu hyn, rhaid i ni wneud cais am grantiau sy'n rhai cyson.
"Mae dibyniaeth anferth ar y sector ei hun i gynhyrchu ei incwm ei hun drwy grantiau."
Roedd Saffron, 17, wedi bod mewn sesiwn perthynas iach yn ei chanolfan ieuenctid lleol ym Merthyr.
Dywedodd: "Ar y teledu rydych chi'n gweld perthnasau gwael - rhai'n cynnwys camdriniaeth. Mae'n bwysig os ydych yn iau i adnabod yr arwyddion cynnar am berthynas ddrwg.
"Mae rhai pobl yn chwarae teuluoedd hapus ar y cyfryngau cymdeithasol ond yn y cefndir dyw nhw ddim."
Dywedodd Paige, 17, sy'n gwirfoddoli yn y ganolfan, fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu cuddio anhapusrwydd pobl.
"Mae angen i bobl ifanc wybod mwy am fod mewn perthynas iach - rydym ni efallai yn canolbwyntio mwy ar y rhai sy'n cynnwys camdriniaeth," meddai.
'Trin yn gynnar'
Dywedodd Ms Fitzpatrick fod prosiectau'n aml yn cael eu hariannu am gyfnodau penodol allai ddod i ben unwaith yr oedd yr arbenigedd wedi ei sefydlu.
"Fe all fod achos lle'r ydych yn sefydlu darn da iawn o waith, ac yn gwneud gwaith rhagorol gyda phlant a phobl ifanc - ac yna'r unig grantiau sydd ar gael ydi ar gyfer gwasanaethau newydd."
Dywedodd y dylai gweithio gyda phlant sydd wedi eu heffeithio gan gamdriniaeth gael ei ariannu fel gwasanaeth craidd, achos fe fyddai methu ag ymyrryd yn y cyfnod cynnar yma yn golygu y byddai eu hanawsterau'n parhau - a gwaethygu - pan yn oedolion.
Esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod mesurau gwarchod plant wedi eu cyhoeddi'r llynedd ac roedden nhw'n cefnogi arferion cyson ar draws Cymru.
Ychwanegodd fod grant plant a chymunedau ar gyfer cynghorau yn ariannu cefnogaeth i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed sydd wedi dioddef pob math o drais yn y cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2014