Crwner yn dweud bod claf wedi marw drwy anffawd
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad fod dyn oedrannus wedi marw drwy anffawd yn dilyn llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.
Bu farw Arthur Price Hughes o Sir Conwy ym mis Hydref 2014.
Cafodd y llawfeddyg Georgios Akritidis ei ddiswyddo ddiwrnod ar ôl iddo roi llawdriniaeth i Mr Hughes.
Clywodd cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun fod Mr Hughes wedi gwaedu'n ddifrifol.
Yn dilyn y digwyddiad penderfynodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol osod cyfyngiadau ar ddyletswyddau Mr Akritidis.
Yn dilyn y rheithfarn ddydd Gwener, dywedodd teulu Mr Hughes eu bod nhw'n "siomedig" na chafodd neb ei erlyn ac y bydden nhw "wedi ffafrio rheithfarn naratif".
Clywodd y cwest fod pryderon am allu Mr Akritidis wedi eu lleisio gan gydweithwyr, ac roedd trefniadau iddo dderbyn goruchwyliaeth yn ystod triniaethau brys.
Yn dilyn marwolaeth Mr Hughes, cafodd yr heddlu eu galw i ymchwilio i Mr Akritidis, ac fe ymchwiliodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol hefyd.
Wedi iddo gael ei ddiswyddo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fe wynebodd Mr Akritidis gyfyngiadau ar ei ddyletswyddau.
Bellach mae'n gweithio yng Ngholeg y Brenin yn Llundain, er bod cyfyngiadau wedi dod i ben dair blynedd yn ôl mae rhai cyfyngiadau ar ei waith yn parhau ac nid yw'n cael gweithio fel ymgynghorydd.
Ar ddiwedd y cwest nododd y crwner hefyd y bydd adroddiad ar Atal Marwolaethau yn y Dyfodol yn cael ei gyhoeddi ac fe fydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar beidio cael geirda am Mr Akritidis gan ei gyn-reolwr.
'Edrych ymlaen i weld ei orwyr'
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Cafodd Taid (dyna beth roedden ni i gyd yn ei alw) ei gymryd oddi wrthym ni mewn amgylchiadau trasig.
"Roedd o'n rhoi sicrwydd i ni i gyd. Dylem ni fod wedi gallu sicrhau, pan ddaeth yr amser, y byddai'n gallu marw gydag urddas, efo'r rheiny oedd yn ei garu o'i gwmpas.
"Byddai wedi cael y cyfle i gyfarfod y cyntaf o'i orwyrion gafodd ei eni deuddydd cyn ei farwolaeth, rhywbeth oedd o wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano.
"Rydym ni wedi clywed y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y cwest ac fel teulu rydym yn credu, er bod Dr Akritidis wedi dweud mai ei weithredoedd o arweiniodd at farwolaeth Taid, nad ei fai o oedd y cwbl.
"Cafodd ei roi mewn sefyllfa anodd ac yn anffodus doedd ganddo mo'r dewrder i siarad.
"Methodd y staff uwch gydnabod a gweithredu ar y pryderon a godwyd mewn ffordd fyddai'n sicrhau diogelwch y cleifion.
"Mae'n ymddangos fod y broses recriwtio gychwynnol yn ddiffygiol ac mae wedi cael ei wella i ryw raddau ond rydym yn credu bod angen mwy o waith ar hyn."
Ychwanegodd y teulu eu bod nhw'n "siomedig" na chafodd neb ei erlyn.
"Byddem ni wedi ffafrio rheithfarn naratif," medden nhw.
'Ymddiheuro'
Ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dywedodd Dr David Fearnley, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, ei fod "yn cydymdeimlo â theulu Mr Price Hughes ac yn ymddiheuro am y methiannau".
"Ry'n yn derbyn canfyddiadau'r crwner ac yn sicrhau bod nifer o welliannau wedi cael eu cyflwyno ers 2014 ond ry'n yn cydnabod pryder y crwner ac fe fyddwn yn darparu y sicrwydd angenrheidiol i'r crwner a theulu Mr Price Hughes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2020