Cau ysgol: Cyngor Abertawe 'wedi torri safonau'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Felindre
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r comisiynydd yn cydnabod na fydd y dyfarniad yn newid y penderfyniad i gau'r ysgol

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i'r casgliad fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi torri saith o safonau'r Gymraeg wrth gynnig cau ysgol gynradd Gymraeg yn y sir.

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn honni nad oedd y cyngor wedi ymgynghori yn briodol cyn cynnig cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre nac wedi ystyried effaith newid eu polisi ar y Gymraeg.

Yn ei adroddiad mae'r comisiynydd, Aled Roberts yn nodi fod chwech allan o'r saith o safonau a dorrwyd yn ymwneud gyda phenderfyniadau polisi.

Mae Mr Roberts wedi gosod camau gorfodi ar y cyngor, sy'n golygu y bydd rhaid iddyn nhw gael "[p]roses gadarn yn y dyfodol i ystyried effaith penderfyniadau ar y Gymraeg".

Ond mae'n cydnabod hefyd na fydd y dyfarniad yn newid y penderfyniad gan Gyngor Abertawe i gau'r ysgol.

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Abertawe eu bod nhw'n nodi canfyddiadau'r adroddiad ond eu bod yn "siomedig iawn bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â mân faterion technegol".

Daeth y Comisiynydd i'r casgliad "nad oedd y cyngor wedi ystyried effaith y polisi newydd ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, nac wedi ystyried a cheisio barn am yr effaith hyn yn y ddogfen ymgynghori".

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad oedd y cyngor wedi ystyried os byddai'r Gymraeg "yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg o newid y polisi ac na chafodd hynny chwaith ei ystyried na'i gynnwys yn ddigonol yn y dogfennau ymgynghori".

"Yn dilyn yr ymchwiliad, rwyf bellach wedi dod i'r casgliad fod saith o safonau wedi eu torri," meddai Mr Roberts.

"Rwyf wedi gosod camau gorfodi ar y cyngor, fydd yn golygu y bydd ganddynt broses gadarn yn y dyfodol i ystyried effaith penderfyniadau ar y Gymraeg.

"Maent yn cynnwys pwyntiau megis addasu eu dogfennau ymgynghori a chreu canllaw cadarn i swyddogion, i gynnig arweiniad ar asesu effaith.

"Fydd y dyfarniad hwn ddim yn newid y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.

"Ond bydd yn sicrhau bod ystyriaeth lawn ac ymgynghori digonol yn y dyfodol gydag unrhyw benderfyniad polisi, a'i effaith ar y Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Dafis yn dadlau y dylai Comisiynydd y Gymraeg gael pwerau i ddadwneud penderfyniad cynghorau lleol

Dywedodd Angharad Dafis, a gyflwynodd y gwyn i'r comisiynydd yn y lle cyntaf: "Rwy'n croesawu canfyddiad y comisiynydd - yn arbennig y canfyddiad fod Cyngor Abertawe wedi methu â chynnal asesiad ac ymgynghori ynglŷn â'r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned.

"Wedi dweud hynny mae wedi dod yn rhy hwyr i'r ysgol, ond dwi'n gobeithio bod hyn yn grymuso pobl eraill allai fod yn wynebu'r sefyllfa yma yn y dyfodol.

"Dwi yn credu bod gwendid yn y drefn statudol sydd wedi cael ei gosod yn Ddeddf y Gymraeg sy'n golygu bod amser rhyfeddol yn cael ei ganiatáu i gynghorau apelio ac ymateb.

"Fe ddylai fod hawl gan y comisiynydd i ymyrryd os nad yw pethe'n cael eu gwneud yn iawn, ac i wyrdroi penderfyniad os oes amheuaeth y gallai'r ysgol fod yn dal yr agor."

'Siomedig'

Ym mis Ionawr fe wnaeth arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn a oedd yr ymchwiliad yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Cyngor Abertawe bod y comisiynydd "yn hapus fod y cyngor wedi ystyried effaith y cynnig i gau YGG Felindre ar addysg Gymraeg".

"Cau'r ysgol oedd y penderfyniad cywir a phriodol, o ystyried bod nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng yn sylweddol i 10 yn unig, gyda phedwar ohonynt yn unig yn byw yn nalgylch Felindre," meddai llefarydd

"Rydym yn nodi canfyddiadau'r adroddiad ond rydym yn siomedig iawn bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â mân faterion technegol megis torri safon oherwydd bod copïau caled o'r ddogfen ymgynghori'n cynnwys blychau ar gyfer ymatebion Saesneg a llinellau ar gyfer ymatebion Cymraeg.

"Fel mae'n digwydd, nid oedd unrhyw un wedi penderfynu cwblhau copi caled o'r ddogfen ymgynghori yn y naill iaith na'r llall.

"Mae Cyngor Abertawe'n hollol ymroddedig i gefnogi'r Gymraeg a chynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion."