Deisebu'r llywodraeth i wella diogelwch ffordd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd deiseb sydd wedi'i arwyddo gan dros 5,000 o bobl yn galw am wella diogelwch ar ffordd beryglus yng Ngwynedd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth.
Mae tri o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiadau ar yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer yn fwy wedi'u hanafu.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno gan Sioned Wyn Williams, wnaeth golli ei merch a'i chwaer mewn gwrthdrawiad ar y ffordd ym mis Ionawr 2018.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno rhai mesurau newydd ar y ffordd a'u bod wrthi'n cyflwyno gwelliannau diogelwch pellach.
Fe fydd pwyllgor deisebau'r Cynulliad hefyd yn trafod y mater fore Mawrth, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r llywodraeth amser cinio.
Ym mis Ionawr 2018 cafodd merch chwe mis oed, Mili Wyn Ginniver, a'i modryb, Anna Wyn Williams, 22, eu lladd mewn gwrthdrawiad ar y rhan honno o'r ffordd.
Yng Ngorffennaf 2019 bu farw Fflur Green, 24, mewn gwrthdrawiad ar yr un rhan o'r ffordd.
Mae'r terfyn cyflymder wedi cael ei ostwng o 60 i 40mya yn yr ardal, ond mae ymgyrchwyr eisiau gweld camerâu cyflymder yn cael eu gosod er mwyn plismona'r terfyn newydd.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Elfed Roberts bod angen gwneud mwy, er y newidiadau diweddar i'r ffordd.
"Maen nhw wedi dechrau ar y gwaith - maen nhw wrthi yn rhoi arwyddion 40mya i fyny, rhoi'r anti-skid yn ei le a rhoi wyneb newydd ar y ffordd," meddai.
"Mae angen mynd â'r maen i'r wal rŵan a gorffen y jig-so - cael camerâu cyflymder llawn amser yno.
"Cyngor Plwyf Maentwrog wnaeth ysgrifennu at y llywodraeth gyntaf, dwy flynedd yn ôl, yn gofyn am welliannau am fod y ffordd yn berygl.
"Ers hynny mae babi a dwy o genod ifanc yr ardal wedi cael eu lladd yno.
"Rŵan bod Sioned Williams - gollodd ei phlentyn a'i chwaer mewn damwain yma - wedi hel dros 5,000 o enwau, fyddwn ni'n mynd i Gaerdydd gan obeithio y bydd y Cynulliad yn cymryd sylw ohono fo a rhoi'r camerâu yma i gwblhau'r gwaith."
Mae'r aelod seneddol lleol, Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, hefyd wedi datgan ei chefnogaeth i'r ymgyrch.
"Mae consensws ymhlith y gymuned leol bod yn rhaid gwneud rhywbeth sylweddol i leihau nifer y damweiniau ar hyd y gefnffordd brysur hon, a bod yn rhaid i'r ymateb gyd-fynd â difrifoldeb y broblem," meddai.
"Mae'r gefnogaeth eang i'r ddeiseb hon yn dangos cryfder pryder lleol.
"Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn y terfyn cyflymder a'r newidiadau i wyneb y ffordd; mesurau a gyflwynwyd yn dilyn ymgyrchu ar y cyd.
"Ond rwy'n adleisio galwadau bod angen mesurau diogelwch pellach cyn gynted â phosibl, gan gynnwys edrych ar osod camerâu cyflymder cyfartalog."
'Wedi cyflwyno mesurau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater hollbwysig i ni ac rydym wrthi'n cyflwyno gwelliannau ar y rhan hon o'r ffordd.
"Rydym wedi cyflwyno rhai mesurau newydd, gan gynnwys terfyn cyflymder newydd o 40 milltir yr awr a ffensys diogelwch newydd.
"Mae'r gwaith o osod wyneb newydd a gwell marciau ffordd hefyd yn mynd rhagddo.
"Bydd mesurau eraill, gan gynnwys gosod camerâu sy'n mesur cyflymder cyfartalog, yn cael eu cyflwyno os na fydd cydymffurfiaeth ddigonol â'r terfyn cyflymder newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019
- Cyhoeddwyd23 Awst 2019
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019