Colli 500 o swyddi Tata ond hynny'n 'llai na'r disgwyl'
- Cyhoeddwyd
Mae'n debyg mai tua 500 o swyddi dur sydd yn y fantol yn safleoedd dur Tata yn y DU - yn hytrach na'r 1,000 oedd wedi ei ofni yn wreiddiol.
Dywedodd Tata wrth BBC Cymru y bydd 1,250 yn colli eu gwaith yn Ewrop, yn hytrach na'r 3,000 oedd wedi ei grybwyll yn eu cynllun gwreiddiol.
Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi ym mis Tachwedd y byddai'n rhaid diswyddo er mwyn arbed arian.
Ar y pryd dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, eu bod yn disgwyl y byddai 1,000 o swyddi'n cael colli yng Nghymru.
Mae gan Tata UK safleoedd ym Mhort Talbot, Llanwern, Trostre, Caerffili a Shotton.
Mewn llythyr at y gweithlu ddydd Llun dywedodd pennaeth Tata yn Ewrop, Henrik Adam fod sefyllfa ariannol y cwmni'n "ddifrifol".
Dywedodd fod y busnes wedi gwneud colledion o £76m yn naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol, ac mai'r nod oedd gwella hyn o £650m.
"Bwriad y cynllun yw sicrhau dyfodol y cwmni a gwneud beth sydd orau o ran y gweithwyr, gan dderbyn ein bod yn wynebu amgylchiadau heriol.
"Fe fydd trefniadau yn cael eu gwneud i ddechrau ymgynghori ddechrau Ebrill gyda chynrychiolwyr y gweithwyr."
Mae Llywodraeth Cymru a'r undebau wedi cael cais am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019