Sut i warchod plant yng nghanol argyfwng y coronafeirws?
- Cyhoeddwyd
Gydag oedolion yn mynd i banig, silffoedd gwag yn yr archfarchnadoedd, a newyddion am hunan ynysu a'r coronafeirws fel pe bai'n lledu'n ddyfnach yng Nghymru - sut ddylen ni drafod y sefyllfa â phlant?
Gyda phlant yn treulio cyfran fawr o'u hamser yn yr ysgol, mae 'na ganllawiau dyddiol yn cael eu rhannu i athrawon gan gynghorau sir ar draws y wlad.
Yn Ysgol Gynradd Pwll Coch yng Nghaerdydd, mae stoc newydd o alcogels wedi cyrraedd a'r plant yn cael eu hatgoffa am bwysigrwydd hylendid.
"Ry'n ni wir yn gwthio'r ffaith bo ni'n golchi dwylo, a bo ni'n canu pen-blwydd hapus ddwywaith," meddai Mrs Rebecca Avci, cyfarwyddwr lles yr ysgol. "Mae'n drysu rhai o blant y dosbarth derbyn gan fod neb yn cael pen-blwydd!"
Pwysigrwydd golchi dwylo
Yn ôl Mrs Avci, y plant hŷn sydd fwyaf ymwybodol o'r coronafeirws ar hyn o bryd. Maen nhw'n cael cyfle i drafod ar ôl gwylio Newsround bob dydd fel rhan o'u gwersi prynhawn.
"Mae'r cylchgrawn plant First News, wedi cyhoeddi erthygl yn tawelu eu meddwl nhw mewn ffordd. Mae'n cynnwys data o ran ffliw, data o ran y coronafeirws, ac felly plîs peidiwch â becso am y peth, ond beth allwch chi neud yw gwneud yn siŵr eich bod chi'n golchi dwylo a bo chi ddim yn cyffwrdd a'ch wyneb."
O ran y plant llai, golchi dwylo'n dda sy'n cael blaenoriaeth.
"Ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n golchi dwylo wrth ddod mewn o'r iard, wrth fynd am ginio, a sicrhau eu bod nhw'n golchi dwylo'n deidi ar ôl bod i'r tŷ bach.
"Ry'n ni hefyd yn sicrhau bo ni yn mynd i'r tŷ bach gyda'r plant llai er mwyn sicrhau eu bod nhw'n golchi dwylo gyda sebon - ac i osgoi cyffwrdd eu hwynebau. Mae'n hawdd dweud, ond mae'n anodd sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu."
I'r rhai sy'n cynhyrchu newyddion teledu i blant bob dydd ar raglen Ffeil y BBC i S4C, mae 'na ystyriaeth fawr o'r hyn allai ofni plant. Mae'r rhaglen yn darparu gwasanaeth newyddion i blant chwech i 12 oed, ac mae'r tîm yn ymwybodol iawn o'r pryder sy'n gallu codi o rai straeon newyddion.
"Dwi ddim eisiau ofni plant felly dwi ddim eisiau dweud wrthyn nhw o hyd pan mae achosion newydd yn codi," meddai Alex, cyflwynydd Ffeil.
Coronafeirws ar y newyddion
Mae'r rhaglen yn gyfarwydd a chyfleu newyddion arswydus i blant am straeon fel ymosodiadau terfysgol, tebyg i ffrwydrad Manceinion. Yn ôl Alex, yr un yw'r pwyslais bob tro - ar ochr bositif y stori.
"Rwy'n gorfod ystyried beth sy'n cael ei ddweud ar y buarth. Mae'n bosib bod plant ond yn deud un ochr o'r stori - y ffeithiau negyddol.
"Felly mae gan Ffeil gyfrifoldeb i ddeud y stori gyfan i blant, i neud yn siŵr bo nhw yn gwybod bod 'na arbenigwyr yn helpu, yn gweithio'n galed ac yn cymryd camau positif i'w stopio fo.
"Felly rwy'n tueddu canolbwyntio ar bethau positif mae pobl yn neud. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ddeud y ffeithiau a pheidio cuddio'r ffeithiau."
Dyna hefyd yw cyngor y seicolegydd plant, Dr Mair Edwards.
Pwysleisio'r Positif
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod rhieni yn dweud, ydi mae hwn yn rhywbeth sy'n achosi pryder i bobl, ond mae 'na bethau positif dan ni'n gallu neud er mwyn diogelu'n hunain.
"Hwnnw di'r neges sy'n bwysig i blant. Er bod 'na afiechyd sy'n mynd o gwmpas ar hyn o bryd, bod 'na bethau positif 'dan ni'n gallu neud gallwn ni neud i fod yn lleihau'r risg i ni yn bersonol."
Yn ôl Dr Edwards mae'n bwysig trafod y coronafeirws mewn modd sy'n addas i oedran y plant: "Mae angen cymryd i ystyriaeth eu dealltwriaeth nhw. A hefyd bod yn sensitif i'w hofnau nhw.
"Mae rhai plant yn gweithio'n dda hefo ffeithiau. Mae rhai plant yn mynd yn fwy pryderus. I ryw raddau, mae'n rhaid i rieni feddwl beth sy'n gweithio i'w plentyn nhw."
Gallai plant hŷn gael pryderon gwahanol i blant llai. Cyngor Dr Edwards yw i gadw'n ddigynnwrf wrth drafod y sefyllfa a glynu'n agos at y ffeithiau.
'Ydi taid neu nain yn mynd i farw?'
"Unwaith mae plentyn yn dallt marwolaeth, a bod rhywun yn marw a ddim yn dod 'nôl yn fyw, mae'n gallu achosi eithaf lot o bryder i rai plant," meddai Dr Edwards.
"Felly rhai cwestiynau allai gael eu codi ydi, ydi taid neu nain yn mynd i farw, os ydyn nhw wedi dallt bod mwy o risg i bobl hyn. A dan ni'n gwybod bod 'na fwy o risg i bobl hŷn ac i bobl fregus.
"Felly os oes 'na riant yn mynd drwy driniaeth cemotherapi er enghraifft, mae plant yn eu harddegau yn debygol o fod yn llawer mwy pryderus gan fo nhw'n sylweddoli bod 'na risg uwch."
Os yw rhiant yn bryderus eu hun, cyngor Dr Edwards yw i rieni arfogi eu hunain â'r ffeithiau.
Egluro Covid-19
Mae Covid-19 yn afiechyd sy'n effeithio ar y system anadlu. Mae fel pe bai'n dechrau gyda thwymyn, yna peswch sych. Ar ôl rhyw wythnos, mae'n achosi i gleifion fod yn fyr eu hanadl, ac mae rhai cleifion angen mynd i'r ysbyty.
Dyw meddygon ddim yn siŵr sut mae'n lledu o berson i berson, ond mae firysau tebyg yn lledu drwy ddafnau bach, fel y rhai sy'n cael eu creu wrth i berson disian neu besychu.
Cyngor Dr Edwards yw trafod yr hyn y gall plentyn ei reoli, yn enwedig os yw plentyn hyn efallai yn ymwybodol o'r risg uwch i berthynas sy'n fwy bregus oherwydd triniaeth fel cemotherapi fel enghraifft.
"Gallwch chi ddeud, oes ma na risg, ond mae 'na bethau positif dan ni'n gallu neud i leihau'r risg. Mae o'n andros o bwysig os oes gen ti anwyd, ac yn pesychu dy fod di'n defnyddio hances boced, neu bo ti'n defnyddio dy lawes, neu dy benelin yn hytrach na dy law. Mae'r math yna o wybodaeth i blant yr un mor addas ac i oedolion.
Techneg arall mae Dr Edwards yn ei argymell yw defnyddio hiwmor i wneud y dasg o olchi dwylo yn fwy pleserus i blant.
"Dan ni'n gwybod se rhai plant yn gwerthfawrogi gwybodaeth am y firws a sut mae'n edrych - a'r ffaith bod 'na layer o fraster neu lipid o'i gwmpas o, a bod sebon yn gallu torri hwnna lawr felly bod sebon yn ffrind. Mae sebon a dŵr hefo'i gilydd yn ffrindiau mawr i ni. Felly os dan ni'n rhoi o yn y ffordd bositif yna bod ni'n dysgu nhw i olchi dwylo'n iawn.
Cyngor Alex i unrhyw riant i blant ifanc sy'n ansicr am sut i drafod y coronafeirws a'u plant yw eu hannog i wylio Ffeil am y ffeithiau diweddaraf, mewn modd addas i'w hoedran nhw.