Cau cartrefi gofal i ymwelwyr achos coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
gofal

Mae pryder y gallai teuluoedd gael eu rhannu wrth i rai cartrefi gofal gau eu drysau i ymwelwyr oherwydd pryderon am y coronafeirws.

Mae rhai cartrefi gofal a nyrsio i'r henoed wedi gosod cyfyngiadau llym ar ymwelwyr mewn ymgais i atal yr haint rhag lledu.

Yn ôl Age Cymru dylai unrhyw gartrefi sy'n cymryd camau o'r fath sicrhau bod teuluoedd yn gallu siarad â'u hanwyliaid ar y ffôn neu drwy e-bost.

Mae cartref gofal mam Cath Allen o Gaerdydd wedi gosod cyfyngiadau llym ar ymwelwyr.

Mae mam Ms Allen yn 80 oed ac yn dioddef o Alzheimer's, felly mae'r sefyllfa yn ei phoeni.

Er bod meddygon yn cael mynd mewn ac allan o'r cartref, mae Ms Allen wedi cael gwybod y caiff ymweld ond unwaith yr wythnos, yn gwisgo mwgwd a menig, mewn un ystafell tra'n eistedd yn bell oddi wrth ei mam.

"Mae'n fy mhoeni i rywfaint, oherwydd dwi ddim yn gwybod os ydy hi yn fy nabod i efo'r masg ymlaen," meddai.

"A hefyd, rwy'n gwybod eu bod nhw'n ceisio egluro pam bod rhaid iddo fo ddigwydd, ond dwi ddim yn hollol sicr os yw hi'n dallt.

"A ma' hynny'n anodd, oherwydd 'da ni'n agos iawn a dwi isio gwneud y gorau iddi hi. A dwi'm yn teimlo 'mod i'n gwneud hynny ar hyn o bryd."

Dim cyngor swyddogol i gau cartrefi gofal

Does dim cyfarwyddyd swyddogol ar gartrefi gofal na chartrefi nyrsio i gau eu drysau i ymwelwyr.

Cyngor Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yw osgoi ymweld â phobl fregus eu hiechyd os ydych chi yn teimlo'n sâl.

Ond, mae rhai cartrefi gofal wedi cymryd y cam pellach o atal ymwelwyr - iach ai peidio.

O safbwynt Cath Allen, mae'n gysur bod ei mam yn cael gofal da, a hithau ond newydd symud o gefn gwlad Sir Ddinbych rhyw ddeufis yn ôl.

"Mae 'na 32 o bobl yno - neb a'r feirws ar hyn o bryd," meddai. "Maen nhw'n cymryd o o ddifri'.

"Unrhyw aelod o staff sydd wedi bod ar eu gwyliau tramor i unrhyw le - 'dyn nhw ddim yn cael mynd 'nôl i'r gwaith.

"Maen nhw'n trio'u cael nhw i beidio trafeilio ar fysys a threnau. Mae'n rhaid iddyn nhw dynnu sgidie eu hunain a gwisgo dillad gwahanol a rhoi sanitizers iddyn nhw i fynd adre.

"Dwi wir ddim yn gallu gweld sut y gallen nhw wneud unrhyw beth yn ychwanegol."

'Poeni fydd Mam ddim yn fy nabod'

Ond un o'r ystyriaethau sy'n pryderi Ms Allen fwyaf yw'r ansicrwydd ynglŷn â phryd fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio.

"Dwi'n meddwl bod hynny'n rili anodd, oherwydd natur y salwch," meddai.

"Mae'n gallu symud yn gyflym weithiau. Fel merch, dwi'n poeni falle bydd Mam ddim yn 'nabod fi erbyn yr amser bydda i'n gallu ei gweld hi yn iawn.

"Mae'n rhaid i fi anghofio hynny mewn ffordd. Y prif beth ydy ei bod hi'n ddiogel, ac mae'n edrych yn hapus."

Yn ôl Michael Phillips o Age Cymru dylai cartrefi nyrsio ddilyn cyngor gwasanaethau iechyd cyhoeddus yn gyson.

"Mae rhai cartrefi nyrsio yn gofalu am bobl hŷn sy'n fregus iawn, sydd dan fwy o risg oddi wrth y coronafeirws na gweddill y boblogaeth," meddai.

"Ry'n ni'n disgwyl i gartrefi nyrsio ddilyn cyngor y gwasanaethau iechyd yn rheolaidd.

"Os ydyn nhw yn cynghori peidio caniatáu ymwelwyr, byddem ni'n disgwyl i gartrefi gyflwyno mesurau i helpu sicrhau lles eu preswylwyr, er enghraifft, drwy sicrhau eu bod yn gallu siarad â'u ffrindiau neu berthnasau ar y ffon neu drwy e-bost."

Poblogaeth hŷn Cymru

Ddydd Mawrth daeth cydnabyddiaeth yn y Senedd y gallai'r afiechyd gael mwy o effaith ar bobl hŷn yng Nghymru nag yn Lloegr oherwydd bod y boblogaeth ar gyfartaledd yn fwy oedrannus.

Mewn trafodaeth am effaith y coronafeirws, dywedodd gweinidog cyllid Cymru, Rebecca Evans y dylai'r swm o arian sy'n cael ei roi i Gymru i ddelio â'r feirws adlewyrchu bod y boblogaeth yma yn hŷn na gweddill y DU.

Yn ôl data'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mewn poblogaeth o 3.1 miliwn, mae dros 800,000 o bobl Cymru yn 60 oed neu'n hŷn.

Mae tua thraean o'r rheiny o leiaf yn 75 oed.

Fe ddaeth sylwadau Ms Evans wedi iddi gwrdd â gweinidogion y DU cyn cyhoeddi'r gyllideb yn hwyrach.

Dywed Comisiynydd Pob Hŷn Cymru, Heléna Herklots: "Mae'n hanfodol bod pobl yn ystyried cyngor arbenigwyr iechyd cyhoeddus, a pharhau i wneud y pethau syml, effeithiol, fel golchi dwylo yn rheolaidd.

"Dyna sy'n lleihau ein risg o ddal y feirws a'i drosglwyddo i eraill."