Hen gastanwydden bêr yw Coeden Gymreig y Flwyddyn 2019
- Cyhoeddwyd
Hen gastanwydden bêr ym Mhont-y-pŵl yw Coeden Gymreig y Flwyddyn 2019.
Ceubren 400 mlwydd oed ym Mharc Pont-y-pŵl y mae modd cerdded i mewn iddi gafodd y gefnogaeth fwyaf mewn pleidlais gyhoeddus.
Dywedodd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl wrth ei henwebu y byddai llawer o blant wedi chwarae a chuddio o amgylch y goeden dros y canrifoedd a bod coed hynafol y parc, a gafodd ei roi i bobl y dref yn y 20fed ganrif, "yn ein hatgoffa o'n treftadaeth".
Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi mewn seremoni ym Mae Caerdydd a bydd y goeden yn rhan o gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2020.
Coed Cadw sy'n trefnu'r gystadleuaeth flynyddol ac yn ôl eu cyfarwyddwr yng Nghymru, Natalie Buttriss, roedd pob un o'r coed ar restr fer eleni "yn edrych yn anhygoel" ac â "stori ddifyr i'w hadrodd".
Mae hefyd, meddai, yn helpu codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd coed a bod rhai "dan fygythiad... oherwydd datblygiadau amhriodol".
Chwe choeden arall oedd ar y rhestr fer - pump yn ne Cymru ac un ym Mhowys.
Cafodd palalwyfen enfawr ar un o'r ffyrdd prysuraf i ganol Caerdydd ei henwebu gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd, a ddywedodd fod ei chanopi "aruthrol yn llawenydd pur" ac yn "codi'r ysbryd i edrych i fyny iddo ar ddyddiau pan fyddwch chi dan straen".
Mae hefyd yn "pwmpio ocsigen i'r ardal fel y gall trigolion y ddinas anadlu'n haws" ac mae ei bôn enfawr "yn rhy fawr o lawer i un person ei gofleidio".
Mae'n debyg bod y dderwen ym maes parcio'r Cefn Mably Arms, Llanfihangel-y-fedw, i'r gorllewin o Gasnewydd, yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru.
Mae rhai'n credu iddi gael ei phlannu'n fuan ar ôl i'r ffermdy, sydd bellach yn dŷ tafarn, dros 450 mlynedd yn ôl, ond mae eraill yn amcangyfrif ei bod yn nes at 800 mlwydd oed - ffigwr sy'n nes ati, o farnu ar faint ei boncyff.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent sy'n gofalu am goedlan hynafol Coed Prisk lle mae palalwyfen â choron enfawr ar lethr serth uwchben Afon Gwy.
Mae chwilen brin iawn, oedd wedi diflannu yn ôl y gred yn ystod yr Oes Efydd, i'w weld yn Nyffryn Gwy ac wedi ei gofnodi yng nghanghennau pydredig y goeden hon.
Mae llefydd gwyrdd mor brin yn ardal drefol Y Sblot, aeth grŵp bach o drigolion ati i drefnu Parti Coed i ddod â phobl at ei gilydd a dangos gymaint roedden nhw'n gwerthfawrogi'r geiriosen yn Stryd y Rheilffordd.
Roedd y parti'n gyfle i bobl ddod i nabod ei gilydd ac i gyfnewid planhigion, ac yn ôl trefnwyr roedd yr awyrgylch mor wych, er gwaethaf glaw trwm, nes bod "pawb yn ysu i drefnu partïon eraill i ddathlu'r goeden yn y dyfodol".
Roedd yna gynlluniau ar un cyfnod i dorri'r boplysen ddu yng nghanol Y Drenewydd a tharmacio'r ardal lle mae'n sefyll cyn i'r cyngor tref wrthwynebu.
Mae'r goeden - un o rywogaethau brodorol prinnaf Prydain - ar lan ddeheuol afon Hafren ond roedd yn arfer sefyll ar y lan ogleddol, cyn i gwrs yr afon gael ei newid o ganlyniad llifogydd mawr yn 1960 a 1964.
Roedd y llyngesydd Japaneaidd Togo Heihachiro - sy'n cael ei barchu fel Nelson y Dwyrain ar ôl trechu llynges Rwsia ym 1905 - yn is-gapten yn astudio yn y DU ac yn aros yn Nhŷ'r Prif Adeiladwr Llongau yn Noc Penfro pan gafodd y llong ryfel Japaneaidd, Hiei ei chomisiynu.
Cafodd y llong ei hadeiladu yn Noc Penfro yn 1877, ac fe roddodd lasbren Japaneaidd Gingko i'w blannu yng ngardd y tŷ. Mae eginblanhigion o'r Gingko, sy'n 142 oed, yn cael eu tyfu ym meithrinfa Gardd Fotaneg Cymru i'w cludo yn ôl i ddinasoedd yn Japan sy'n gysylltiedig â'r Llyngesydd Togo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2015