Nifer y teithiau ar reilffyrdd Cymru yn gostwng
- Cyhoeddwyd
Bu gostyngiad yn y nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd ym mlwyddyn gyntaf cwmni Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r gwasanaeth.
Sefydlwyd y cwmni gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2018 i redeg y gwasanaeth yn rhanbarth Cymru a'r Gororau.
Roedd 33.5 miliwn o deithiau ar drenau Trafnidiaeth Cymru yn 2019, o'i gymharu â 33.6 y flwyddyn gynt, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).
Bu cwymp o 7.7% yn nifer y teithiau yn y rhanbarth yn ystod chwarter olaf 2019 - Hydref i Ragfyr - o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
Dyma'r cwymp mwyaf gan unrhyw gwmni rheilffordd yn adran ranbarthol yr ORR. Yn wir, gwelwyd cynnydd cyffredinol o 5% yng ngweddill y cwmnïau.
'Llai o gemau rygbi'
Yn ei adroddiad mae'r ORR yn pwysleisio mai dim ond un gêm rygbi rhyngwladol yr Hydref gafodd ei chwarae yng Nghaerdydd yn 2019, tra bod pedair wedi bod yn 2018.
Nodwyd hefyd bod y lein rhwng y Fenni a Henffordd wedi cau oherwydd difrod llifogydd.
Yn y flwyddyn gynt - o 2018 i 2019 - cododd nifer y teithwyr o 32.9 miliwn i 34.1 miliwn, cynnydd o 3.65%.
Cadarnhaodd Bethan Jelfs ar ran Trafnidiaeth Cymru bod y digwyddiadau a nodwyd yn adroddiad yr ORR wedi cael effaith ar y ffigyrau.
"Mae'r digwyddiadau hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar niferoedd teithwyr ac yn egluro'r cwymp o 100,000 yn y rhifau," meddai.
"Wrth symud ymlaen rydym yn disgwyl i'r niferoedd barhau i dyfu fel y gwnaethon nhw mewn blynyddoedd blaenorol, wrth i ni weithredu ar ein cynlluniau i fuddsoddi o £5bn i drawsnewid trafnidiaeth ar rwydwaith Cymru a'r Gororau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018