Gwaith celf ffoaduriaid yn ysbrydoli arddangosfa
- Cyhoeddwyd
Llun gan Monet sy'n serennu mewn arddangosfa newydd o gelf gan ffoaduriaid ym Machynlleth.
Mae amgueddfa celf gyfoes Machynlleth, MOMA, yn canolbwyntio ar waith artistiaid sydd wedi ffoi o'u cartrefi.
Mae gwaith artistiaid o Gymru - gan gynnwys yr arlunydd Josef Herman, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl - hefyd ymhlith y lluniau sy'n cael eu harddangos yn yr oriel.
Dywedodd curadur yr arddangosfa, Dr Peter Wakelin, ei fod eisiau tynnu sylw at "ddylanwad positif" artistiaid a oedd hefyd yn ffoaduriaid.
Teitl yr arddangosfa yw Lloches a Bywyd Newydd, gan ganolbwyntio ar ffoaduriaid o'r Natsïaid, yn ogystal â mynd yn bellach nôl at y rhai wnaeth ddianc rhyfel Ffranco-Prwsia ac ymfudwyr gwleidyddol mwy diweddar.
'Amgylchedd newydd'
Cafodd y gwaith gan Claude Monet ei beintio yn Llundain ar ôl iddo ddianc rhag rhyfel Ffranco-Prwsia yn 1870, ac mae'n dangos yr olygfa ar Afon Tafwys.
"Roedd Monet newydd ddechrau datblygu ei syniadau am argraffiadaeth (impressionism) pan ddechreuodd y rhyfel yn 1870," meddai Dr Wakelin.
"Wnaeth e ffoi dros y môr yn sydyn, daeth i Brydain, ac fe syrthiodd mewn cariad â pheintio Llundain.
"Yn ystod y flwyddyn roedd e'n byw yma fe gafodd drafferth fawr, a dywedodd y byddai bron wedi llwgu pe na bai ei asiant wedi dod gyda fe, ac wedi llwyddo gwerthu rhai gweithiau celf.
"Ond yr hyn roedd e'n caru am fyw yma oedd y cyfle i astudio mewn amgylchedd newydd, yn enwedig bywyd diwydiannol Afon Tafwys, awyrgylch hollol wahanol i'r hyn roedd e wedi arfer gyda fe.
"Dechreuodd hefyd ymddiddori'n fawr yn artistiaid Prydeinig fel Constable a Turner, a dechreuodd ei waith newid oherwydd ei gyfnod yma."
Mae gweithiau gan y ffotograffydd o Chile, Humberto Gatica, wedi'u cynnwys yn y sioe.
'Arwydd emosiynol'
Fe wnaeth ef a'i wraig ffoi o Chile ar ôl cael eu carcharu gan lywodraeth Pinochet yn y 1970au. Ymgartrefodd y ddau yn Abertawe lle maen nhw dal i fyw heddiw.
Gan ddefnyddio lluniau teulu, mae Mr Gatica yn creu delweddau newydd sy'n dangos poen y rhai oedd gorfod gadael teuluoedd a ffrindiau wrth ffoi'r wlad.
Wrth siarad am ei gelf, dywedodd: "Mae'n cyfleu llawer o wahanol bethau. Er enghraifft mae marwolaeth, colled, gwacter.
"Rwy'n gweithio gyda gwahanol ddelweddau, ac yn chwilio am arwydd emosiynol cryf.
"Wnes i greu'r gwaith yma oherwydd dechreuais ofyn 'Pwy ydw i, beth ydw i'n trio mynegi?'
"Ac yna wnes i sylweddoli fy mod i wedi gorfod delio â phoen trwy gydol fy mywyd."
Dywedodd Humberto Gatica fod celf a barddoniaeth wedi ei helpu i ddod i'r afael â'i brofiadau fel ffoadur.
Lloches i ffoaduriaid
"Ydy, mae'n iawn i deimlo trueni drosoch chi eich hunain am ychydig, ond ar ôl hynny mae angen i chi symud ymlaen.
"Ac wrth symud ymlaen, fe wnaeth ffotograffiaeth a barddoniaeth fy helpu. Y bobl sy'n dweud ei fod yn therapi, maen nhw'n hollol iawn."
Mae'r arddangosfa yn MOMA wedi cymryd blynyddoedd o gynllunio, ac wedi dibynnu ar fenthyg gweithiau gan orielau mawr a chasglwyr preifat.
Mae rhai o'r gweithiau'n dangos cymeriadau a thirweddau Cymreig, tra dywedodd Dr Wakelin ei fod hefyd eisiau dathlu hanes Cymru fel lloches i ffoaduriaid.
"Yn aml mae gan Gymru record o drin ffoaduriaid yn dda iawn, ac o eisiau dod â nhw i mewn i fywyd Cymru.
"Rydych chi'n edrych at bobl fel Heinz Koppel a Josef Herman a sefydlodd eu hunain yma, a gafodd effaith enfawr, oherwydd eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl Cymru - yn enwedig yng nghymoedd y de.
"Ond roedd cyfnod yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd pan roedd y chwiorydd Davies o Gregynog mor hael wrth greu cartrefi i artistiaid o Wlad Belg a ddaeth i Brydain.
"Roedd y chwiorydd am iddynt gael dylanwad bositif ar broffesiynoli celf yng Nghymru."
Mae'r arddangosfa ym MOMA Machynlleth tan 6 Mehefin 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019