Coronafeirws: Ysgolion yn gwneud paratoadau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ysgolion yn aros ar agor am y tro ond mae yna ansicrwydd am sut allai argyfwng y coronafeirws effeithio ar arholiadau'r haf.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, mae'r cyngor yn glir yn erbyn cau ysgolion ar hyn o bryd ond fe allai hynny newid.
Mae ysgolion a cholegau yn parhau i baratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd angen cau, gan gynnwys datblygu adnoddau ar-lein.
Dywedodd Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau, y dylai disgyblion TGAU a Safon Uwch barhau i weithio tuag at yr arholiadau.
Cyhoeddodd Prifysgol Abertawe ddydd Gwener y bydd holl ddysgu wyneb-i-wyneb yn dod i ben ar 20 Mawrth nes diwedd y tymor ar 1 Mai.
Yn Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley ym Merthyr Tudful maen nhw wedi bod yn pwysleisio negeseuon am hylendid ac wedi gosod gel dwylo yn y ffreutur amser cinio.
Yn ôl y pennaeth Sarah Hopkins maen nhw'n rhoi gwybodaeth gyson a synhwyrol i ddisgyblion.
Mae'r ysgol eisoes yn defnyddio Google Classroom ar gyfer addysgu ar-lein ar adegau - system sy'n caniatáu i ddisgyblion ddysgu gartref a chael adborth gan athrawon.
"Rydw i wedi gofyn i staff wneud yn siŵr bod banc o adnoddau ar gael yn rhwydd, os ydyn ni mewn sefyllfa lle bydden ni'n gorfod cau," meddai Ms Hopkins.
Ond mae'r pryder mwyaf ynghylch beth fydd yn digwydd i'r rhai sy'n paratoi ar gyfer TGAU eleni a'r "tensiwn a'r ansicrwydd" sy'n bodoli.
Mae Jack, 15 oed, yn sefyll rhai arholiadau TGAU o fewn wythnosau.
Ei brif bryder yw iechyd ei neiniau a theidiau wrth i'r coronafeirws ledu, ond mae ei arholiadau hefyd ar ei feddwl.
"Rydw i eisoes yn poeni am yr arholiadau fel y mae, ac wedyn ar ben popeth fe allen nhw gau'r ysgol," meddai.
"Mae rhai o fy ffrindiau yn mynd i banig... mae'n ansicr iawn.
"Mae'r athrawon yn gwneud llawer i helpu. Rydyn ni'n dysgu cymaint ag y gallwn ni."
Dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn trafod "a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol eleni gyda byrddau arholi, cyd-reoleiddwyr yn y Deyrnas Unedig ac adrannau'r Llywodraeth".
"Yn y cyfamser yr hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw bod myfyrwyr ac athrawon yn parhau i baratoi at arholiadau'r haf yma yn yr un modd ag a fydden nhw unrhyw flwyddyn arall," meddai Emyr George o Gymwysterau Cymru.
Ond bod ysgolion "yn barod i ymateb i unrhyw gyngor ddaw maes o law".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020