Coronafeirws: 'Dim cau ysgolion' Cymru am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog iechyd Cymru wedi dweud nad oes budd mewn cau ysgolion Cymru am y tro, mewn ymgais i arafu ymlediad coronafeirws.
Yn gynharach ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon y byddai holl ysgolion a cholegau'r wlad yn cau am bythefnos mewn ymateb i'r haint.
Yn dilyn cyfarfod argyfwng Cobra gweinidogion Llywodraeth y DU brynhawn dydd Iau, mae teithiau tramor holl ysgolion Prydain wedi eu gwahardd.
Hyd yn hyn mae 10 o bobl wedi marw o ganlyniad i effeithiau haint coronafeirws yn y DU, gyda 596 o achosion wedi eu cadarnhau - cynnydd o'r cyfanswm o 456 achos ddydd Mercher.
Dywedodd Boris Johnson mai hwn oedd yr "argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth".
Mae ei lywodraeth wedi symud i ail gymal yr ymdrechion i atal ymlediad yr haint - sef y cymal o geisio oedi'r ymlediad.
Ymysg y camau sydd wedi eu cyhoeddi mae hunan ynysu pobl sydd yn dioddef symptomau newydd o dagu neu dymheredd a chynghori'r oedrannus i beidio mynd ar deithiau llongau pleser dramor.
Dim ond ystyried gwahardd digwyddiadau torfol mae Mr Johnson a'i weinidogion ar hyn o bryd, gan y byddai gwneud hynny'n rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.
Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Iau, dywedodd gweinidog iechyd Cymru Vaughan Gething na fyddai ysgolion Cymru'n cau ar hyn o bryd gan "na fyddai'n briodol" gwneud hynny, ond fe all y cyngor yma newid.
Dywedodd: "Dydyn ni ddim yn sôn am gau ysgolion am wythnos neu ddwy. Ond - hefyd pa effaith fyddai hyn yn ei gael ar rieni - y rhai hynny fyddai ddim yn mynd i'r gwaith er mwyn edrych ar ôl eu plant, yr heddlu a'r gwasanaeth iechyd - y rhai hynny yr ydym am ei weld yn parhau'n mynd i'r gwaith?
"A'r cam nesaf o ran y bobl fyddai'n edrych ar eu holau ydi aelodau eraill o'r teulu - ac os yn neiniau a theidiau, aelodau hŷn y teulu - dyma'r union grŵp o bobl yr ydym yn ceisio ei ddiogelu."
Dywedodd ei fod yn rhoi ystyriaeth lawn i'r syniad o roi diwedd ar gyfarfodydd torfol mawr am y tro, fel bydd yn digwydd yn Yr Alban yn fuan, meddai.
Ychwanegodd ei fod yn dal yn gefnogol o'r camau sy'n cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU i geisio arafu ymlediad coronafeirws, ond ei fod hefyd yn herio'r cyngor mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn.
Angen hunan ynysu
Galwodd y Prif Swyddog Iechyd Dr Frank Atherton ar unrhyw un sydd yn dangos symptomau o dagu neu wres i hunan ynysu am saith niwrnod.
Fe ddylai unigolion wneud hynny o ddydd Gwener ymlaen yn ôl polisi'r llywodraeth.
"Rydym yn gweithio ar y rhagdybiaeth fod pobl sydd hefo symptomau o dagu o'r newydd neu dymheredd uchel yn gleifion sydd gyda haint coronafeirws ac felly fe ddylie nhw hunan ynysu," meddai.
Ychwanegodd mai'r sialens oedd paratoi ar gyfer nifer sylweddol o achosion yn y misoedd i ddod.
Dywedodd Dr Atherton y byddai'r cyfnod o geisio oedi'r feirws yn golygu rhywfaint o anghyfleuster i bobl fyddai ddim yn gallu mynd i'r ysgol neu'r gwaith.
Ond roedd rhaid i Gymru "gwtogi brig y galw" ar y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, meddai, er mwyn paratoi at gyfnod pan fydd y firws ar ei hanterth. Fe allai hyn fod ym mis Mai neu Fehefin, meddai.
Daeth cadarnhad brynhawn Iau fod chwe achos newydd o coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 25.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020