Rheolwr Caernarfon yn pledio'n euog i achosi ffrwgwd

  • Cyhoeddwyd
Huw GriffithsFfynhonnell y llun, Colin McPherson/Getty Images

Mae rheolwr tîm pêl-droed Caernarfon, Huw Griffiths wedi pledio'n euog i achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad mewn tafarn yn Wrecsam y llynedd.

Mae ei wraig, Siân Griffiths, hefyd wedi pledio'n euog ar ôl cael ei chyhuddo o achosi niwed corfforol, ymosod ar ddynes arall, ac ymosod ar heddwas.

Roedd y cyhuddiadau'n deillio o ddigwyddiad yn nhafarn y Llew Coch yn Marford ger Wrecsam, lle mae'r ddau'n byw, ar 13 Gorffennaf 2019.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod y dafarn "yn eithaf prysur ar y pryd" a bod Ms Griffiths wedi ymddwyn mewn modd "ymosodol iawn".

Fe blediodd hi'n euog i anafu Jessica Waterhouse, ymosod gan achosi niwed corfforol i Anna Short, ac ymosod ar swyddog heddlu, Lauren Halliwell.

Clywodd y llys fod Mr Griffiths wedi taro dyn arall gyda'i ben pan geisiodd hwnnw ymyrryd i ddod â'r ffrwgwd i ben.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fyddan nhw'n cael eu dedfrydu ar 9 Ebrill.

Ychwanegodd y cofiadur Simon Mills fod posibiliad y gallai'r ddau fod yn wynebu dedfryd o garchar.