Cynnydd yn nifer achosion o fandaliaeth i henebion
- Cyhoeddwyd
Gyda mwy a mwy o ddifrod yn cael ei achosi i safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymuno â chyrff cadwriaethol fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, CADW ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Erbyn hyn, mae 10 swyddog wedi derbyn hyfforddiant er mwyn dysgu sut mae delio â galwadau yn ymwneud â henebion.
Gyda chofnod yn cael ei greu o'r safleoedd sy'n cael eu targedu, mae cynlluniau ar droed i sicrhau bod mwy o bresenoldeb gan yr heddlu yn y mannau hynny er mwyn atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn ôl yr Arolygydd Reuben Palin o Heddlu Dyfed-Powys: "Does dim modd ailgodi'r henebion yma, ac mae'n rhan o'n dyletswydd ni i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu."
Mae'r cynllun wedi ei sbarduno gan ddifrod i gerrig hynafol Siambr Gladdu Pentre Ifan yn Sir Benfro ddwy flynedd yn ôl.
Bryd hynny, cafodd graffiti ei baentio ar y cerrig neolithig, gan ddefnyddio gwaed anifail.
'Ein record o'r gorffennol'
Mae Tomos Jones yn archeolegydd cymunedol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
"Dwi yn teimlo ei fod e'n gwaethygu a'r mwya' ry'n ni'n dod i ddeall pa safleoedd sy'n cael eu heffeithio, y mwya' o bryder mae'n codi.
"Ond mae hynny'n bwysig hefyd achos mae'n dangos i ni lle ddylwn ni dargedu ein hadnoddau," meddai.
Mae mynyddoedd y Preseli yn enwog am eu cerrig gleision, sydd yn rhan o Gôr y Cewri yng Nghaersallog, De Lloegr, ond mae Tomos yn poeni fod pobl yn torri'r cerrig enwog sydd i'w cael ar y Preseli er mwyn eu gwerthu.
Ychwanegodd: "Un o'r problemau sydd gyda ni yn yr ardal yna yw pobl yn dod â chwareli rhai o'r cerrig oherwydd y cysylltiad efo Stonehenge.
"Unwaith mae pethau wedi'u symud ar safleoedd, fedrwn ni neud gwaith i roi pethau nôl, ond ni dal wedi 'neud y newidiadau.
"Unwaith mae'r difrod yna wedi'i wneud, mae'n anodd ei dynnu i ffwrdd. Mae'n bwysig. Dyma ein record ni o'n gorffennol ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018