Dyfodol un o glybiau pêl-droed hynaf Cymru yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol un o glybiau pêl-droed hynaf Cymru yn y fantol wedi iddyn nhw gael gorchymyn dirwyn i ben gan y Swyddfa Dreth.
Cafodd Derwyddon Cefn eu sefydlu yn 1872, ac fe gafodd y clwb o ardal Wrecsam fuddsoddwyr newydd yn 2019.
Ond mewn datganiad fe ddywedodd y clwb fod problemau wedi codi'n ddiweddar yn dilyn "dyledion oedd ddim wedi'u datgan i'r buddsoddwyr newydd".
"Mae aelodau o'r hen fwrdd o gyfarwyddwyr mewn trafodaethau ar hyn o bryd gyda'r buddsoddwyr newydd ynglŷn â'r mater," meddai'r clwb.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd dod i ddatrysiad cyn y gwrandawiad ac achub y clwb rhag mynd i'r wal.
"Byddwn yn gwneud sylw pellach ddydd Mawrth [17 Mawrth]."
Ar hyn o bryd mae Derwyddon Cefn yn wythfed yn Uwch Gynghrair Cymru, gyda gemau wedi'u gohirio ar hyn o bryd oherwydd ymlediad coronafeirws.