Coronafeirws: Trafferthion Cymry wrth ddod adref o Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Almaen gau'r rhan fwyaf o'i ffiniau gyda Ffrainc, Swistir ac Awstria o ddydd LlunFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r Almaen gau'r rhan fwyaf o'i ffiniau gyda Ffrainc, Swistir ac Awstria o ddydd Llun

Mae nifer o deithwyr o Gymru yn wynebu trafferthion wrth ddychwelyd adref wedi i wledydd Ewropeaidd gyhoeddi cyfyngiadau yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Dros y penwythnos fe gyhoeddodd Ffrainc a Sbaen reolau llym sy'n cyfyngu ar symudiadau pobl, gan ddilyn yr Eidal sydd eisoes wedi cyflwyno mesurau o'r fath.

Mae gwledydd eraill fel yr Almaen, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec a Slofacia hefyd un ai wedi cau rhai o'u ffiniau neu'n bwriadu gwneud yn fuan.

Daw hynny wedi i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru rybuddio y gallai henoed orfod hunanynysu ac ysgolion gau yn ystod yr wythnosau nesaf os ydy'r sefyllfa'n gwaethygu.

'Be' dwi fod i 'neud?'

Mae Carl Jones o Lanllyfni yng Ngwynedd yn gobeithio gallu hedfan adref ddydd Llun o wyliau stag yn Tenerife, ond heb "glywed gair" gan ei gwmni teithio eto.

"Dydan ni ddim yn cael gadael y gwesty, a does neb i'w weld yn deud dim yn fan 'ma," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Roeddan ni wedi clywed ddoe bod bob man am gau ddydd Llun, ac wedyn gafon ni glywed mai 08:00 bore 'ma oedd o."

Dywedodd ei fod ef a'i ffrindiau mewn bar yn oriau mân y bore pan ddaeth swyddogion heddlu o gwmpas y tafarndai a hel pawb adref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carl Jones fod y criw dal mewn hwyliau da er gwaethaf yr ansicrwydd

Mae'r criw yn gobeithio gallu hedfan yn ôl nos Lun, ond dywedodd Mr Jones nad oedden nhw wedi clywed unrhyw beth gan eu cwmni teithio nac unrhyw gyngor am beth i wneud ar ôl dychwelyd adref.

"Beth sy'n rhwystredig ydy bod 'na ddim byd i rybuddio ni am beth i 'neud pan 'dan ni'n dod adra," meddai.

"Dwi'n byw efo rhywun sy'n gweithio mewn cartref gofal i'r henoed. Be' dwi fod i 'neud, cadw'n glir ta dod nôl adra ac ella'i roi o iddi hi i gario i'r cartref?

"Mae lot o'r hogia yn self-employed ac yn poeni am gwaith 'fyd. Mae 'na 22 ohonan ni yma a phawb efo rhywbeth gwahanol i boeni am."

Styc yng Ngwlad Pwyl

Un arall sydd wedi'i effeithio ydy gohebydd BBC Cymru, Sion Pennar, oedd ar ymweliad â Gwlad Pwyl gyda'i deulu pan gafodd wybod na fyddai modd iddo hedfan yn ôl.

"Nos Wener fe ddaeth 'na gyhoeddiad gan y llywodraeth eu bod nhw'n bwriadu cau'r ffiniau am hanner nos, nos Sadwrn," meddai.

"Roedd hynny'n golygu bod awyrennau ddim yn cael mynd allan o Wlad Pwyl na dod."

Disgrifiad,

Gwlad Pwyl: "Dydy pobl ddim yn gwybod beth sy'n digwydd"

Dywedodd fod eu hediad adref o ddinas Poznan wedi ei ganslo, a'u bod bellach yn ystyried ceisio croesi'r ffin i'r Almaen cyn hedfan yn ôl o Berlin.

"'Dach chi dal yn gallu gadael y wlad, ond mae 'na ansicrwydd wedyn am beth 'dach chi'n ei wneud os 'dach chi methu cael ffleit o'r Almaen - roedd rhai heddiw, o beth welon ni, i gyd yn llawn.

"Mae 'na ansicrwydd - a risg wrth gwrs bod yr Almaen yn cau ei ffiniau hithau."

Beth yw'r sefyllfa yn Ewrop a thu hwnt?

  • Yr Eidal wedi ei tharo waethaf gan coronafeirws, gyda'r wlad gyfan dan fesurau llym ers dechrau'r wythnos

  • Sbaen bellach wedi dilyn trywydd tebyg, gan gyfyngu ar symudiadau pobl

  • Ffrainc wedi cau llawer o fwytai, bariau a siopau, ond etholiadau lleol yn parhau i gael eu cynnal

  • Disgwyl i'r Almaen gau'r rhan fwyaf o'i ffiniau gyda Ffrainc, Swistir ac Awstria o ddydd Llun

  • Canghellor Awstria yn annog pobl i hunanynysu, gan wahardd cyfarfodydd o bum person neu fwy

  • Disgwyl i Rwmania gyhoeddi sefyllfa o argyfwng ddydd Llun

  • Slofacia a'r Weriniaeth Tsiec wedi cau eu ffiniau, gyda'r Weriniaeth Tsiec yn ystyried mesurau cwarantin

  • Yr UDA wedi gosod cyfyngiadau ar deithwyr o Ewrop a gohirio digwyddiadau chwaraeon mawr

  • Awstralia a Seland Newydd yn mynnu bod pobl sy'n cyrraedd y wlad yn hunanynysu am 14 diwrnod

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i gynnal etholiadau lleol Ffrainc