Gwasanaethau cyngor 'am leihau yn sgil coronafeirws'

  • Cyhoeddwyd
GwastraffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae casgliadau gwastraff ymysg y gwasanaethau all gael eu lleihau, yn ôl arweinydd CLlLC

Mae'n bosib y bydd casgliadau gwastraff a gwasanaethau eraill cynghorau yn cael eu lleihau yn ystod argyfwng coronafeirws.

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau yn gorfod blaenoriaethu "gwasanaethau rheng flaen" fel gofal cymdeithasol.

Mae Andrew Morgan wedi annog cyn-weithwyr gofal cymdeithasol i ddychwelwyd i'r maes er mwyn helpu i ddelio â'r argyfwng presennol.

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi ddydd Mawrth bod 12 achos newydd o Covid-19 wedi'u cadarnhau yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i 136.

'Casglu unwaith y mis'

Yn ôl Mr Morgan, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, mae'n debyg y bydd nifer o wasanaethau cynghorau un ai'n lleihau neu'n dod i ben yn llwyr.

"Ein blaenoriaeth fydd diogelu gwasanaethau rheng flaen allweddol, yn enwedig gofal cymdeithasol a'r rheiny sydd fwyaf bregus," meddai.

"Mae'n debygol y bydd gwasanaethau cynghorau yn yr wythnosau a misoedd nesaf yn cael eu lleihau, ac o bosib bydd yn rhaid gwahardd gwasanaethau mewn rhai ardaloedd.

"Casgliadau gwastraff er enghraifft. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu lleihau o bob pythefnos, hyd yn oed i unwaith y mis."

Fe wnaeth y gweinidog llywodraeth leol, Julie James bwysleisio nad ydy lleihau gwasanaethau wedi dechrau eto, ond bod hynny'n cael ei ystyried yn yr "wythnosau a misoedd nesaf".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew Morgan ei bod yn bosib y bydd rhai gwasanaethau yn dod i ben yn llwyr

Ychwanegodd Mr Morgan ei fod yn annog unrhyw gyn-weithwyr gofal sydd eisiau helpu yn y cyfnod hwn i gysylltu gyda'u hawdurdod lleol.

Dywedodd bod angen mwy o staff er mwyn cynnal gwasanaethau, a bod "nifer o unigolion" eisoes wedi cynnig dychwelyd i'r gwaith.

'Tanamcangyfrif nifer yr achosion'

Wrth i'r nifer sydd wedi'u cadarnhau â coronafeirws gynyddu i 136, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod bod hynny yn "tanamcangyfrif nifer yr achosion mewn gwirionedd".

Mae hynny oherwydd mai'r cyngor i unrhyw un sy'n credu eu bod wedi'u heintio bellach yw aros gartref am o leiaf wythnos, a dim ond mewn ysbytai mae profion yn cael eu cynnal.

Dywedodd Dr Gini Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Does dim angen i bobl gysylltu â'r GIG 111 bellach os ydyn nhw'n credu bod ganddyn nhw Covid-19.

"Dylai pobl sydd â gwres neu beswch aros adref am saith diwrnod os ydyn nhw'n byw ar eu pen eu hunain, neu 14 diwrnod os ydyn nhw'n byw gydag eraill.

"Fe ddylai unrhyw un sy'n byw gyda pherson sydd â symptomau hefyd aros adref am 14 diwrnod a pheidio mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty.

"Dylen nhw gysylltu â'r GIG 111 dim ond os ydyn nhw'n teimlo na allan nhw ddelio â'r symptomau gartref, os ydy eu cyflwr yn gwaethygu, neu os nad ydyn nhw'n gwella ar ôl saith diwrnod."