Trydydd claf wedi marw yng Nghymru ar ôl cael coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges CymruFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y claf yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru pan fu farw

Mae trydydd person yng Nghymru wedi marw ar ôl dioddef o haint Covid-19.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru bod y claf yn 71 oed, ac eisoes â chyflyrau iechyd eraill.

Roedd y claf yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr pan fu farw.

Daw hynny wrth i nifer y bobl sydd wedi'u cadarnhau â Covid-19 yng Nghymru gynyddu i 191, gyda 21 achos newydd yn cael eu cadarnhau.

21 o 22 sir ag achosion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch am mai'r cyngor bellach yw i aros adref yn hytrach na chysylltu â'r gwasanaeth iechyd.

Sir Ddinbych yw'r unig sir yng Nghymru bellach sydd heb achos o coronafeirws wedi'i gadarnhau.

Claf 68 oed oedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y cyntaf i farw o'r haint yng Nghymru.

Yna daeth cadarnhad ddydd Mawrth fod claf 96 oed oedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys wedi marw hefyd.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton: "Mae'n ddrwg iawn gennyf gadarnhau'r newyddion trist bod trydydd claf yng Nghymru a oedd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 wedi marw.

"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau'r unigolyn a gofynnaf i'w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu."