Dau glaf arall wedi marw ar ôl cael coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson arall, oedd wedi profi yn bositif i Covid-19, wedi marw yng Nghymru.
Mae bellach pump o bobl wedi marw yma, gyda chyfanswm o 233 yn y DU.
Dywedodd prif swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton fod gan y cleifion gyflyrau iechyd eraill.
"Roedd un o'r cleifion yn 75 oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Singleton a'r llall yn 98 oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Roedd gan y ddau gyflyrau iechyd eraill. Mae'n cydymdeimlad yn fawr gyda'u teuluoedd."
Yn gynharach ddydd Sadwrn cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer yr achosion positif o coronafeirws yng Nghymru wedi cyrraedd 280.
Roedd hynny'n gynnydd o 89.
Yn ôl Dr Chris Williams, cyfarwyddwr achosion coronofeirws gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer yr achosion go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch, gyda choronafeirws yn bresennol ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd Dr Williams y bydd pobl sy'n gweithio wyneb yn wyneb â chleifion yn cael eu profi.
"Wrth i fwy o bobl gael eu profi bydd canllawiau pellach ar bwy sy'n gymwys i gael prawf.
"Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn dilyn ein cynghorion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2020