Coronafeirws: Talu myfyrwyr meddygol i gynorthwyo

  • Cyhoeddwyd
doctoriaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff meddygol ymhlith y rhai mwyaf allweddol yn ystod y cyfnod hwn

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf ym meysydd meddygaeth, nyrsio a bydwragedd yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd fel rhan o gamau diweddara Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â coronafeirws.

Fore Sadwrn fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething hefyd gyhoeddi y byddai'n gofyn i weithwyr iechyd sydd wedi ymddeol ddychwelyd i waith.

Mae 5,000 o lythyron wedi eu hanfon at weithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Mae'r llythyr yn gofyn iddynt ailgofrestru gyda'u cyrff priodol er mwyn cael dychwelyd i weithio i GIG Cymru.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 89 o achosion newydd o bobl sydd wedi profi'n bositif am coronofeirws yng Nghymru sy'n codi'r cyfanswm i 280.

Yn ôl Dr Chris Williams, cyfarwyddwr achosion coronofeirws, mae nifer yr achosion go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch, gyda choronafeirws yn bresennol ym mhob rhan o Gymru.

Mae pump o bobl, oedd wedi eu profi'n bositif, wedi marw o'r haint yng Nghymru.

Dywedodd Dr Williams y bydd pobl sy'n gweithio wyneb yn wyneb â chleifion yn cael eu profi.

"Wrth i fwy o bobl gael eu profi bydd canllawiau pellach ar bwy sy'n gymwys i gael prawf.

"Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn dilyn ein cynghorion."

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething: "Ein blaenoriaeth yw diogelu iechyd pobl ac achub bywydau"

Yn ystod y cynhadledd i'r wasg dywedodd Mr Gething y byddai'r llywodraeth yn darparu offer diogelwch ar gyfer gweithwyr ym maes gofal.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi addo £7m ychwanegol i gynghorau, er mwyn iddynt barhau i ddarparu ciniawau ysgol am ddim i blant.

Ymhlith mesurau eraill, fe fydd fferyllfeydd yn cael agor awr yn hwyrach a chau awr yn gynharach ac fe fyddant yn cael yr hawl i gau am ddwy awr pob diwrnod, er mwyn caniatáu iddynt ailstocio.

Wrth ateb cwestiynau ynglŷn â'r penderfyniad i gau tafarndai a llefydd bwyta dywedodd Mr Gething: "Rydym yn gwybod fod hyn am gael effaith uniongyrchol ar fywoliaeth pobl.

"Ein blaenoriaeth yw diogelu iechyd pobl ac achub bywydau.

"Mae ein penderfyniadau yn cael eu gwneud ar ôl derbyn y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf am y modd mae'r feirws yn ymledu."

Prydau am ddim

Yn y cyfamser, mae cynghorau yng Nghymru yn gwneud paratoadau ar gyfer darparu bwyd i deuluoedd ar gyfer y rhai mwyaf bregus.

Mae disgwyl i lywodraeth Cymru gyhoeddi nifer o fesurau cyn hir i gefnogi teuluoedd bregus.

Dywedodd Kirsty Williams y gweinidog addysg: "Tra ein bod wedi gweithredu i gymryd mesurau angenrheidiol i frwydro coronafeirws, gallwn ni ddim anghofio'r plant hynny sy'n ddibynnol ar ysgolion am lawer mwy na dim ond eu haddysg.

"Mae'n hanfodol bod plant sy'n cael prydau am ddim yn parhau i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn."