Coronafeirws: Saith arall wedi marw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau saith o farwolaethau pellach yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru.
Roedd pump o'r marwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Gwent, un yn Nevill Hall ac un yn Ysbyty'r Tywysog Charles.
Roedd pob un yn y categori risg uchel, naill ai dros 70 neu gyda chyflyrau iechyd sylfaenol.
Mae 71 o bobl eraill wedi profi'n bositif i'r haint yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 347.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru nid oedd y saith wedi marw dros nos ond yn ystod yr wythnos.
Dywedodd: "Mae deuddeg o bobl bellach wedi marw yng Nghymru wedi profion positif o COVID-19."
Does dim rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Cymru, Dr Frank Atherton: "Gyda thristwch mawr, gallaf gadarnhau saith o farwolaethau pellach ymhlith cleifion yng Nghymru a brofodd yn bositif ar gyfer coronafeirws.
"Mae hyn yn mynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 12.
"Mae fy meddyliau gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau ac rwy'n gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser trist iawn yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020