Menter yn cynhyrchu offer i ddiogelu gweithwyr iechyd

  • Cyhoeddwyd
Argraffydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r offer yn cael ei greu drwy ddefnyddio argraffwyr 3D

Menter yn cynhyrchu offer i ddiogelu staff y GIG

Mae ysgolion, cwmnïau preifat a Phrifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio i gynhyrchu offer i ddiogelu wynebau gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd rhag coronafeirws.

Parc Gwyddoniaeth Menai yng Ngaerwen ar Ynys Môn sy'n cydlynu'r cynllun.

Drwy ddefnyddio argraffwyr 3D, y gobaith ydy cynhyrchu cannoedd o'r visors, a hynny o gynlluniau o Sbaen a Sweden sydd wedi cael eu lawrlwytho dros y we.

Bydd yr offer yn cael ei ddosbarthu i staff y gwasanaeth iechyd o ddydd Gwener ymlaen.

'Mawr eu hangen'

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr-gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai: "Mae nifer o bobl o Wynedd, Môn a Chonwy yn rhan o'r prosiect yma, a dros yr wythnos ddiwetha' maen nhw wedi cynhyrchu cannoedd o visors - sydd mawr eu hangen ar y gwasanaeth iechyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart eu bod wedi cynhyrchu "cannoedd" o'r offer diogelwch

Un sy'n rhan o'r cynllun ydy Ilan Davies o'r Bala, sy'n gweithio i gwmni Creo Medical, sydd wedi ei leoli yng Nghaerfaddon a Chas-gwent.

Mae wedi symud yn ôl i'r Bala dros gyfnod yr argyfwng, gan sefydlu gweithdy i gynhyrchu'r offer diogelwch ar safle ei hen ysgol - Ysgol y Berwyn.

Mae Creo Medical wedi cyfrannu nifer o argraffwyr 3D i gynhyrchu'r offer.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ilan Davies ei fod "eisiau helpu" yn ystod yr argyfwng

Dywedodd Ilan: "Efo'r printars mi allwn ni gynhyrchu 60 o visors yr wythnos.

"Mi fydd y visors yn cael eu dosbarth i weithwyr ar y rheng flaen yn lleol i ddechrau.

"Dwi eisiau helpu'r gymuned. Mae pethau'n dywyll ar y funud a dwi eisiau helpu."