Tafarn yn troi'n siop i helpu'r pentref lleol

  • Cyhoeddwyd
Mair Arthur tu ôl y bar yn nhafarn y White CrossFfynhonnell y llun, Mair Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Mair Arthur tu ôl y bar yn nhafarn y White Cross

Mae pentrefwyr yng nghefn gwlad Caerffili yn dweud bod y dafarn leol wedi tynnu pawb at ei gilydd i wynebu argyfwng y coronafeirws.

Does dim modd i bentrefwyr Groeswen gwrdd am ddiod yn nhafarn y White Cross bellach, ond mae'r dafarnwraig nawr wedi agor siop yn gwerthu angenrheidiau bob dydd.

"Ni'n gwerthu bara, wyau, llaeth bob pnawn Mawrth a phnawn Gwener," medd Mair Arthur.

"Dwi ddim fel arfer yn cynnig bwyd 'ma. Ond mae pobl yn dod i 'nôl cwrw i gludo bant gyda nhw pan maen nhw'n mynd heibio am eu tro dyddiol.

"Ond pan fydd y cwrw'n rhedeg mas, sai'n gwybod beth 'naf i wedyn."

Ffynhonnell y llun, Mair Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Y dyn llaeth, Lee Pritchard, sy'n cludo cynnyrch i'r dafarn

Roedd tafarn y White Cross wedi cyrraedd rownd olaf cystadleuaeth Tafarn y Flwyddyn, yng ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad eleni, gyda'r buddugwr fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mai.

Ond, fel cynifer o ddigwyddiadau eraill, mae'r gystadleuaeth wedi'i chanslo am y tro.

Serch hynny, mae Mair yn teimlo'n gryf y dylai rôl y dafarn fel calon y pentref barhau hyd yn oed os na chaiff fod ar agor fel arfer.

"Rwy'n checo ar bawb o'r regulars a'n eu texto nhw! Maen nhw'n rhan o 'mywyd i nawr. Am y tro cynta' ers chwe blynedd, 'sneb yn fy nghartref i bob nos!" meddai.

"Rwy'n gobeithio gallwn ni ddal 'mlaen ac ailagor eto cyn gynted ag y bydd hynny'n ddiogel."

Gyda dim ond rhyw 28 o dai yn y pentref ac un capel, mae'r trigolion yn dweud bod cyfraniad Mair yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Mae wedi dod â'r pentref at ei gilydd," medd Lowri Evans. "Dechreuodd Mair grŵp WhatsApp newydd a nawr mae pobl yn siarad â'i gilydd fydde ddim fel arfer."

Mae rhai o'r pentrefwyr yn rhannu cynnyrch o'u gardd drwy'r dafarn hefyd, ac un yn cynnig gwersi Sbaeneg dyddiol hefyd.

"Ma Rose Cottage yn cynnig rhosmari, Cefn Brith wedi cynnig Hydrangea a Mintys a Cartref wedi cynnig riwbob!"

Ffynhonnell y llun, Lowri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Rhiwbob o 'Cartref' yn cael ei baratoi gan Liam, un o blant y pentref

"Mae'n tynnu'r pwyse off mynd i'r siop fawr," medd Lowri. "Os ni'n rhedeg mas o bethe, ni'n gallu ei gael e o'r pentref nawr, ac mae'n gysur i'r rhai hyn.

"Bydd y pentref yn lle gwell i fod ar ôl i hyn i gyd ddod i ben."

Ffynhonnell y llun, Sam Pearson
Disgrifiad o’r llun,

Y siop newydd yn nhafarn Gwaelod y Garth

Nid tafarn y White Cross yw'r unig un i addasu i helpu'r gymuned leol.

Mae tafarn Gwaelod y Garth hefyd wedi troi'r bar yn siop ar gyfer y pentref lleol yn unig.

"Roedd 'na lif cyson drwy'r bore!" medd Sam Pearson, y cydberchennog.

"Roedd cwt hir drwy gydol y bore ers 9. Ry'n ni wedi neud yn siŵr bod pawb yn cadw ar wahân!"

Maen nhw'n cynnig croissants ffres wedi pobi yno, ham, caws, wyau, llysiau a ffrwythau hefyd.

"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth mor dda! Ry'n ni'n delifro hefyd, ond dim ond yn y pentref. Mae wedi bod mor brysur."