Haint yn ergyd newydd i weddw sy'n gohirio ailbriodi

  • Cyhoeddwyd
Anna-Louise BatesFfynhonnell y llun, Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna-Louise Bates wedi cael pyliau o deimlo'n euog ei bod wedi goroesi'r gwrthdrawiad a laddodd ei gŵr a'u mab

Mae'n bwysig bod pobl yn chwilio am gymorth os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi gydag amgylchiadau'r argyfwng coronafeirws, yn ôl menyw gollodd ei gŵr a'i mab yn 2015.

Roedd Anna-Louise Bates yn paratoi i ailbriodi ym mis Mai, ond mae'r briodas wedi'i gohirio oherwydd y pandemig.

Bu farw Stuart Bates, 43, a Fraser, saith, ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan gerbyd ar yr A4119 yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf bron i bedair blynedd a hanner yn ôl.

Dywedodd Anna-Louise fod "ofn" arni i rannu sut oedd hi'n teimlo mewn gwirionedd, gan ychwanegu mai'r peth cywir i'w wneud yw chwilio am gymorth.

Ffynhonnell y llun, Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd merch Anna-Louise, Elizabeth ei bod "am i Mam fod yn hapus" ar ôl trasiedi'r gorffennol

Roedd ei merch, Elizabeth yn dair oed adeg y digwyddiad, ac mae hi bellach yn hŷn na'i brawd ar yr adeg y bu farw.

Fe wnaeth hi annog Zachary Stubbings i ofyn i'w mam i'w brodi nôl ym mis Medi.

"Dywedais y dylai'r ddau ohonyn nhw fod yn gariadon a ro'n nhw'n cytuno," meddai.

"Rwy' am i Mam fod yn hapus ar ôl trasiedi'r gorffennol. Rwy' eisiau i'm mam deimlo'n well oherwydd dydy hi ddim yn haeddu hyn."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Atgof o fywyd cyn y gwrthdrawiad a chwalodd ei bywyd - Anna-Louise gyda Stuart, Fraser ac Elizabeth

Mae Anna-Louise wedi cael anhawster gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn dilyn y gwrthdrawiad, ac yn dweud ei bod hi'n teimlo'n euog ar ôl iddi oroesi'r digwyddiad.

"Mae'r teimlad dwfn gen i o hyd bod yn rhaid fy mod i wedi gwneud rhywbeth o'i le i hyn i gyd ddigwydd i mi. Rhywbeth mor ofnadwy," meddai.

"Gall y byd i gyd ddweud wrthyf na ddylwn i deimlo'n euog, ac nid fy mai i yw hyn i gyd, ond 'dwi methu helpu'r peth."

Fodd bynnag, mae'n dweud bod cwrdd â Zach wedi gwella'r sefyllfa.

"Mae cael rhywun i ddal fy llaw yn ei wneud yn well ac mae e wedi bod yn wych, yn hollol anhygoel, ac felly rwy'n gwybod yn rhan arall fy ymennydd mai dyma sy'n iawn i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Zach yn y categori bregus o ran dal Covid-19 ar ôl cael canser wyth mlynedd yn ôl

Cafodd Zach ddiagnosis o ganser y gwaed yn 2012 ac felly mae yn y categori bregus o ran dal coronafeirws.

Oherwydd profiadau bywyd anodd Anna-Louise a Zach, dywedodd hi eu bod yn "gwybod mwy nag unrhyw un nad ydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory".

Ychwanegodd bod angen i chi "ddal gafael ar hapusrwydd" lle bynnag gallwch chi.

Aeth rhoddion organau Stuart a Fraser ymlaen i achub nifer o fywydau, a sefydlodd Anna-Louise yr elusen cymorth rhoi organau Believe yn yr wythnos ar ôl eu marwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Anna-Louise Bates
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i nodi'r diwrnod priodas oedd i fod gyda pharti ar-lein i godi arian dros ddwy elusen

Mae Anna-Louise a Zach wedi penderfynu cynnal parti ar-lein yn lle'r briodas ym mis Mai, ac maen nhw wedi trefnu dyddiad newydd ar gyfer y seremoni ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Maen nhw wedi penderfynu defnyddio'r ddau ddigwyddiad i gefnogi Help for Heroes, a gefnogodd Zach yn dilyn ei ddiagnosis canser, ac elusen Believe.