Penodi AS Torfaen yn llefarydd materion cartref Llafur

  • Cyhoeddwyd
Nick Thomas-SymondsFfynhonnell y llun, Senedd Y DU

Mae Aelod Seneddol Torfaen, Nick Thomas-Symonds wedi cael ei benodi'n llefarydd materion cartref y Blaid Lafur.

Cafodd ei benodi wrth i arweinydd newydd y blaid, Syr Keir Starmer ail-lunio cabinet yr wrthblaid yn San Steffan.

Gan ddisgrifio'r penodiad yn "fraint", dywedodd Mr Thomas-Symonds: "Fy mlaenoriaeth bennaf yw'r argyfwng coronafeirws.

"Fy nhasg gyntaf yw siarad gyda'r Ysgrifennydd Cartref a gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r Llywodraeth er lles y boblogaeth gyfan."

Ychwanegodd na fydd yn gwneud hynny trwy "sgorio pwyntiau gwleidyddol, ond gan "godi'r cwestiynau anodd angenrheidiol yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn".

'Gobeithio y gallwn ni gydweithio'

Cafodd ei ethol yn AS yn 2015, ac mae eisoes wedi gwasanaethu ar fainc flaen y Blaid Lafur fel cyfreithiwr cyffredinol cysgodol.

Bydd Mr Thomas-Symonds yn ymuno ag aelodau blaenllaw eraill o gabinet yr wrthblaid a fydd yn cydlynu ymateb y Blaid Lafur i'r pandemig Covid-19.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi llongyfarch Mr Thomas-Symonds.

Dywedodd: "Rwy'n gobeithio y gallwn ni gydweithio yn y cyfnod hwn o bwysigrwydd cenedlaethol - rwyf wedi gofyn i fy nhîm wneud cysylltiad."