Rhybuddion gan yr heddlu i gadw draw dros y gwyliau
- Cyhoeddwyd

Negesuon yn rhybuddio gyrwyr y byddant yn cael eu stopio a'u holi
Mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl rhag ymweld â gwahanol atyniadau dros gyfnod gwyliau'r Pasg gan addo targedu'r rhai sy'n torri'r rheolau'n ymwneud â theithio diangen yn ystod pandemig coronafeirws.
Dywedodd un comisiynydd heddlu a throsedd y bydd ei swyddogion yn mynd ati i sicrhau gorfodaeth yn hytrach na chynnig cyngor.
Yn ôl un prif gwnstabl roedd adroddiadau fod ymwelwyr yn defnyddio lonydd bychan yn hwyr yn y nos er mwyn osgoi'r heddlu.
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am roi dirwyon o £1,000 i unrhyw un sy'n anwybyddu'r gwaharddiad ar deithio diangen.

Mae pob un o Barciau Cenedlaethol Cymru wedi dweud eu bod ar gau i ymwelwyr, ond mae adroddiadau bod ardaloedd ar yr arfordir yn arbennig yn dal i weld ymwelwyr er y cyfyngiadau ar deithio.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys: "Rydym nawr mewn sefyllfa lle mae'r neges yn un digon clir, a bod bobl sy'n gadael y tŷ am resymau nad ydynt o fewn y canllawiau, yna bydd angen mwy o orfodaeth o ran yr heddlu."
Daw'r rhybudd bron i dair wythnos ers i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi cyfres o fesurau i gyfyngu ar symudiadau pobl er mwy atal ymlediad Covid-19.

Heddlu'r Gogledd yn holi gyrwyr ar yr A55 ddydd Iau
Ddydd Iau, fe ddywedodd Mr Drakeford y byddai'r mesurau'n parhau mewn grym ar ôl y Pasg.
Ond er hynny, dywedodd y Cynghorydd Michael Williams o Ddinbych-y-Pysgod bod pobl yn dal i deithio, gan achosi "pryder enfawr" yn lleol.
"Mae'n warthus," meddai.
"Mae 'na bobl hunanol, anghyfrifol iawn all beryglu'r holl ymgyrch ynysu.
"Es i lawr i'r siop leol y bore 'ma, mae hi wedi cael pobl hyn yn eu dagrau gydag ofn."
'Argyfwng, nid gwyliau yw hyn'
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai'r rhai sy'n anwybyddu'r cyfyngiadau wynebu dirwyon o £1,000.
Dywedodd Adam Price nad oedd y neges mai "argyfwng cenedlaethol nid gwyliau cenedlaethol yw hyn" yn cael ei gydnabod gan bawb.
Mae'n dweud y byddai dirwyon o'r fath yn fwy tebygol o newid ymddygiad pobl.

Yr heddlu ar gyrion Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd mwy o swyddogion ar ddyletswydd i geisio dal y rhai sy'n torri'r rheolau.
Ddydd Iau dechreuodd yr heddlu drwy stopio gyrwyr ar yr A40 yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin - sef y prif lon ar gyfer ymweld â Sir Benfro.
Yn y gogledd, bu'r heddlu yn holi gyrwyr oedd yn croesi pont Britannia i Ynys Môn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r heddlu wedi trydar i ddweud eu bod yn ymchwilio i honiadau fod rhai pobl yn gyrru eu dillad ar wasanaeth 'courier' i'w tai haf fel nad yw'r cas yn y car os fyddan nhw'n cael eu stopio ar y ffordd.
Mae cynghorydd sir yng Ngwynedd hefyd wedi mynegi pryder am bobl yn teithio fin nos er mwyn ceisio cyrraedd tai haf.

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020