Caiaciwr: Heddlu i gymryd 'camau priodol'

  • Cyhoeddwyd
Ffordd wedi cauFfynhonnell y llun, Eric Robers

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymwybodol o fideo sydd wedi cael ei rannu cannoedd o weithiau ar we wrth i berson lleol yn Aberffraw, Ynys Môn, herio caiaciwr oedd wedi teithio yno o du allan i'r ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y byddant yn cymryd camau priodol.

Yn ôl Eric Roberts roedd wedi bod yn y caeau er mwyn gwneud yn siwr bod y defaid yn iawn pan welodd dyn yn dod allan o'i gar a symud yr arwydd oedd yn dweud fod y ffordd wedi cau.

"O ben y bryn o ni'n gallu gweld car, felly es i draw," meddai Mr Roberts.

"Welais i'r dyn yn dod ac anwybyddu'r arwydd, felly ges i air ag o."

Fe wnaeth Mr Roberts ffilmio'r digwyddiad a'i gyhoeddi ar y we.

Penderfynol o recordio

Dywedodd y dyn wrtho ei fod wedi dod o Borthaethwy gan fod llif y dŵr yn rhy gryf yno.

Yn y fideo mae'r dyn yn dweud fod y cyfyngiadau presennol sy'n ymwneud â choronafeirws ar gyfer trefi mawrion a dinasoedd.

"Ro ni'n benderfynol o'i recordio a'i roi ar Facebook, felly fe wnes i bwyllo a pheidio codi llais.

"Dwi ddim yn hapus gyda be welais i.

"Mae yna lot o henoed yn y pentre', ac mae gan y mab asthma gwael. Mae fy ngwraig yn nyrs iechyd meddwl.

"De ni wedi bod yn hunan ynysu am y tair wythnos diwethaf.

"Di gyrru o Borthaethwy i Aberffraw er mwyn mynd i gaiacio ddim yn weithred synhwyrol."