'Angen dirwyon llymach i atal teithiau diangen'

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd ar yr A40 ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd ar yr A40 ddydd Gwener

Mae angen cynyddu maint y dirwyon sy'n cael eu rhoi i bobl sy'n parhau i deithio, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

Dywedodd Dafydd Llywelyn nad ydy'r gosb ar hyn o bryd yn ddigon cryf i ddarbwyllo pobl rhag mynd yn groes i gyfyngiadau'r Llywodraeth.

Bwriad y rheolau ydy arafu ymlediad y coronafeirws.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai'n barod i edrych ar lefel y cosbau pe bai cais yn dod gan heddluoedd Cymru.

Yn ôl y canllawiau presennol gall unigolyn sy'n torri'r rheolau gael dirwy o £60 am drosedd gyntaf.

Caiff hwn ei ostwng i £30 os yw'r unigolyn yn talu o fewn 14 diwrnod.

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Sadwrn, dywedodd Dafydd Llywelyn: "Fi'n galw yn bersonol am y dirywion sy'n cael eu rhoi i unigolion fod yn drymach.

"Dwi'n teimlo o dan y canllawiau sydd gyda'r heddlu ar hyn o bryd dyw e ddim yn deterrent mawr i unigolion.

"Dyw e ddim yn rhywbeth sy'n mynd i achosi llawer o bryder i rywun sy'n teithio."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy maint y dirwyon presennol 'ddim yn achosi llawer o bryder' i rai o'r teithwyr, medd Dafydd Llywelyn

Ychwanegodd Mr Llywelyn, sy'n aelod o Blaid Cymru, bod "nifer o bobl" wedi bod yn teithio i ardal y llu dros y dyddiau diwethaf, er gwaethaf rhybuddion i aros adref.

Dywedodd hefyd bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dosbarthu "cannoedd" o ddirwyon, ond nad oedd pobl yn gwrando.

"Yr unig ffordd i ymateb i hyn yn fy nhyb i yw bod y dirwyon yn mynd yn fwy llym," meddai.

Dywedodd y Comisiynydd hefyd ei bod hi'n anodd iawn gwneud unrhyw beth am berchnogion ail gartref unwaith maen nhw wedi cyrraedd eu heiddo.

Modd ailedrych ar y cosbau

Ddydd Gwener dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru'n rhoi mwy o rymoedd i'r heddlu pe bai angen, a bod posib i'w lywodraeth edrych ar beth ellir ei wneud ynghylch y defnydd o ail gartrefi.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Llywelyn, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Sadwrn:

"Bydd pedwar llywodraeth y DU yn adolygu'r cyfyngiadau wythnos nesaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Os bydd angen newidiadau pellach, byddwn yn gwneud newidiadau.

"Mae'r mwyafrif llethol o bobl yn dilyn y rheolau ac yn aros cartref ac rydym yn diolch iddynt am eu cydweithrediad a'u cymorth.

"Rydyn ni'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r heddlu - os ydyn nhw'n dweud bod angen mwy o bwerau arnyn nhw, byddan nhw'n eu cael.

"Os nad yw'r cosbau'n ddigonol, byddwn yn edrych arnynt eto."