Drakeford: 'Diolch am aros adref a helpu achub bywydau'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi diolch i bobl am aros yn eu cartrefi dros benwythnos y Pasg.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gwybod bod aros gartref am amser hir yn "anodd" a bod pobl yn "gwneud aberth bob dydd".
Ond ychwanegodd bod arwyddion bod y cyfyngiadau'n gwneud gwahaniaeth.
Rhybuddiodd hefyd bod y llywodraeth yn cymryd camau i atal y lleiafrif sy'n torri'r rheolau.
Dros 5,000 o brofion positif
Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 18 arall oedd â Covid-19 wedi marw yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm swyddogol i 369.
Cafodd 367 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 5,297 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod fod mwy o bobl â'r feirws mewn gwirionedd, gan mai'r cyfarwyddyd i'r rhan fwyaf o bobl sydd â symptomau yw aros gartref.
Pasg gwahanol eleni
"Fel arfer byddai teuluoedd a ffrindiau'n dod at ei gilydd dros benwythnos y Pasg," meddai Mr Drakeford.
"Ond bydd eleni yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf ohonom wrth i ni aros gartref i ddiogelu ein hunain a phawb o'n cwmpas.
"Rwyf am ddiolch i bawb am gadw at y rheolau. Diolch i chi am aros gartref."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd Mr Drakeford bod "arwyddion cychwynnol" bod y cyfyngiadau yn cael "effaith bositif ac yn arafu'r feirws".
Ond rhybuddiodd hefyd bod "ffordd bell i fynd o hyd".
"Rwy'n gwybod bod aros gartref am amser hir yn anodd ac mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru'n gwneud aberth bob dydd. Mae'r rheolau yno i'ch diogelu chi a phawb chi'n ei garu.
"Wrth beidio ymgynnull i addoli neu i gymdeithasu byddwn yn cadw ein teulu a'n cymuned yn ddiogel."
'Rhoi bywydau eraill mewn perygl'
Dywedodd Mr Drakeford bod y "rhan fwyaf o bobl" yn dilyn y cyfarwyddiadau ond bod "nifer fach yn rhoi bywydau eraill mewn perygl" drwy anwybyddu'r rheolau.
"Rydyn ni'n cymryd camau i roi stop ar hyn," meddai.
Gofynnodd y Prif Weinidog i gymunedau "feddwl am ei gilydd a dal ati i gefnogi ei gilydd".
Wrth gloi'r neges dymunodd Basg "hapus a diogel" i bawb cyn galw arnynt i barhau i aros gartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020