Arbenigwyr 'props' teledu yn creu offer gwarchod iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r adran bropiau y tu ôl i'r gyfres deledu His Dark Materials wedi dechrau gwneud offer gwarchod personol ar gyfer gweithwyr iechyd.
Mae'r argraffwyr 3D a greodd yr alethiometer - neu'r cwmpawd euraidd - bellach yn cael eu defnyddio i wneud masgiau wyneb plastig ar gyfer meddygon sy'n delio â phandemig Covid-19.
Cwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu'r rhaglen sy'n seiliedig ar lyfrau Syr Philip Pullman.
Daw hyn yn dilyn y newyddion bod adran wisgoedd y gyfres wedi bod yn cynhyrchu dillad meddygol.
Dywed rheolwr gwisgoedd His Dark Materials, Dulcie Scott, fod yr ymgyrch wedi "tyfu a thyfu" ar ôl iddi sefydlu tudalen i godi arian sydd bellach wedi derbyn gwerth degau o filoedd o bunnoedd o roddion.
"Ar hyn o bryd, mae gennym ni tua 150 o bobl yn gwneud scrubs. Mae gennym ni tua 6,500 set o scrubs naill ai wedi'u cwblhau a'u danfon neu'n cael eu gwneud, ac mae gennym ni fwy o ffabrig ar y ffordd."
Mae criwiau o gynyrchiadau ledled y DU wedi bod yn cysylltu â Dulcie yn cynnig eu gwasanaeth.
"Mae criw Batman yn ein helpu, mae tîm Sex Education wedi cysylltu â ni, y tîm yn Lerpwl a weithiodd ar Poldark ac mae gennym ni dair merch o Opera Cenedlaethol Cymru hefyd."
Mae'r gwirfoddolwyr wedi'u gwasgaru ledled y DU ac yn helpu eu hysbytai lleol.
'Ffabrig o'r ansawdd uchaf'
Mae Isabelle Conaghan, oedd yn gynorthwy-ydd dylunio ar His Dark Materials, yn cydlynu'r ymgyrch yn ne Cymru.
Mae hi wedi danfon dillad i Ysbyty Brenhinol Gwent a Hosbis Marie Curie ym Mhenarth ac mae wrthi'n danfon i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Treforys.
"Ry'n ni i gyd yn gweithio o adref, sy'n amlwg yn hollol wahanol i fod mewn stiwdio lle mae gennym ni adran gwisgoedd enfawr. Mae ein ffabrig wedi'i gymeradwyo gan y GIG. Dyma'r ffabrig o'r ansawdd uchaf ac mae gennym wneuthurwyr gwisgoedd o'r ansawdd uchaf yn y DU yn eu gwneud."
Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch, mae aelodau eraill y criw o His Dark Materials wedi bod yn cynhyrchu masgiau wyneb plastig.
Defnyddiodd Michael van Kesteren beiriant argraffu 3D ym mhroses ddylunio'r alethiometer, un o brif bropiau'r ddrama.
"Aeth y 50 masg cyntaf i mi greu i Ysbyty'r Brifysgol. Mae bron fel dyletswydd.
"Mae'n rhaid i mi wneud hyn neu fel arall bydd y bobl hyn sy'n ceisio achub bywydau pobl eraill yn dioddef eu hunain."
Mae ail gyfres His Dark Materials bellach yn y broses ôl-gynhyrchu ar ôl i'r ffilmio gael ei gwblhau yn gynharach eleni.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020