60 marwolaeth Covid-19 newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ProfionFfynhonnell y llun, PA Media

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 60 o bobl gafodd brawf positif am coronafeirws wedi marw yng Nghymru yn ystod y 24 awr diwethaf.

Dyma'r nifer fwyaf o farwolaethau sydd yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru hyd yn hyn.

Mae 272 o achosion newydd wedi profi'n bositif hefyd, ond y dybiaeth yw fod y gwir ffigwr o nifer y bobl sydd wedi eu heintio'n llawer uwch.

Dim ond pan mae marwolaethau'n cael eu cofrestru'n swyddogol mae modd penderfynu ar gyfanswm y niferoedd o farwolaethau Covid-19, ac fe all y broses gymryd hyd at bythefnos.

Mae'r ffigyrau hynny wedyn yn cael eu casglu a'u cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus.

Ddydd Mawrth fe ddangosodd ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau fod 236 o farwolaethau yng Nghymru hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar ddydd Gwener, 3 Ebrill.

Cyfanswm achosion yn 6,118

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad Ymateb Covid-19 i Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae 272 o achosion newydd wedi profi'n bositif am coronafeirws newydd yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 6,118 - er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch.

"Mae 60 person arall a gafodd brawf positif am coronafeirws wedi marw, sy'n dod â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 463."

Wrth gydymdeimlo gyda theuluoedd y meirw, ychwanegodd Dr Shankar: "Rydym yn ymwybodol bod nifer y marwolaethau a gofnodir heddiw yn uwch o lawer na ddoe, yn anffodus, ond mae'n werth nodi y disgwylir amrywiadau o ddydd i ddydd."

Dywedodd hefyd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog y cyhoedd i lawrlwytho ap arbennig er mwyn ceisio dilyn trywydd yr haint.

"Rydym yn annog pawb i lawrlwytho'r ap Tracio Symptomau Covid-19, a dderbyniodd gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru," meddai.

"Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr logio symptomau'n ddyddiol i helpu i adeiladu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho'r ap, ewch i covid.joinzoe.com."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd Dr Shankar fod cyfleuster profi Deloitte yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn "parhau i weithredu i'w lawn gapasiti ac yn fodd i brofi gweithwyr allweddol".

Arbrofi ar blasma

Ychwanegodd: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru i archwilio'r broses o ddefnyddio plasma'r rhai sydd wedi gwella o coronafeirws.

"Bydd plasma gan gleifion sydd wedi gwella o coronafeirws yn cynnwys gwrthgyrff y mae eu systemau imiwnedd wedi eu creu i ymladd y feirws. Gellir trallwyso'r rhain i gleifion y mae eu systemau imiwnedd yn cael trafferthion yn datblygu eu gwrthgyrff eu hunain.

"Mae'r cynllun yn ei gyfnod cynnar a byddwn yn gwahodd unigolion cymwys trwy gysylltu â nhw'n uniongyrchol yn unig ar hyn o bryd.

"Rydym yn gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, yn enwedig pan fo'r tywydd yn braf, ond rhaid i aelodau'r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rheolau hyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru."