Gwylwyr y Glannau: 'Cadwch yn glir o'r dŵr'
- Cyhoeddwyd
Mae un o orsafoedd bad achub prysuraf Cymru wedi gofyn i bobl gadw draw o'r dŵr i amddiffyn y gwasanaethau brys yn ystod y pandemig.
Mae criwiau bad achub Penarth wedi ymateb i dri digwyddiad tebyg yn yr un lleoliad ers dechrau'r cyfyngiadau, meddai'r rheolwr Jason Dunlop.
Dywedodd fod criwiau gwirfoddol wedi rhoi'r gorau i bob hyfforddiant wyneb yn wyneb er mwyn lleihau'r risg i'r criw.
"Yn amlwg y peth pwysicaf yw diogelwch ein criw," ychwanegodd Mr Dunlop.
Mae gwirfoddolwyr bellach yn defnyddio linc fideo fel modd o dderbyn hyfforddiant.
Esboniodd Mr Dunlop: "Rydyn ni wedi stopio popeth ar hyfforddi dŵr a gwneud cymaint ag y gallwn ni dros hyfforddiant digidol.
"Yn ffodus, mae'r RNLI yn hyfforddi llawer trwy weddill y flwyddyn felly mae ein criwiau'n barod i fynd.
"Mae gennym ni aelodau o'r gwasanaeth ambiwlans, mae gennym ni heddweision ac rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonyn nhw ac rydyn ni'n gwneud ein gorau i'w cefnogi."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Mae'n llai prysur na'r arfer ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn i'r criwiau o amgylch arfordir Cymru, ond nid yw pawb yn gwrando ar y pledion i aros gartref.
Yn ystod y tair wythnos gyntaf ar ôl cyhoeddi'r cyfyngiadau, cafodd badau achub RNLI eu galw i Ynys Sili dair gwaith i achub pobl oedd wedi'u dal gan y llanw, gan gynnwys grŵp o bedwar o bobl o Fryste.
"Mae angen i ni geisio annog pobl i ddilyn cyngor y llywodraeth i edrych ar ôl eu hunain, i atal galwadau i'r gwasanaethau brys fel y gallwn ofalu am y GIG ac achub bywydau hefyd," ychwanegodd Mr Dunlop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020