Dim targedau llywodraeth newydd ar brofion coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae Mark Drakeford wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn gosod targed newydd o roi profion Covid-19 i bobl.

Yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun fe gyfaddefodd fod y llywodraeth wedi methu â chyrraedd y targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill.

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod hi'n galonogol fod nifer y cleifion gafodd eu hanfon i'r ysbyty gyda coronafeirws yn ymddangos fel ei fod wedi parhau i ostwng dros y penwythnos.

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn parhau adolygu'r cyfyngiadau presennol, ac y gallen nhw dynhau'r rhai ynghylch ail gartrefi.

'Tu hwnt i'n rheolaeth'

Ddydd Llun cafwyd cadarnhad o naw marwolaeth arall a 276 o achosion newydd yng Nghymru o ganlyniad i coronafeirws.

Mae'n golygu bod cyfanswm swyddogol y marwolaethau bellach yn 584, a nifer yr achosion wedi cyrraedd 7,546 - er bod y gwir nifer yn debygol o fod lawer yn uwch.

Wrth drafod y profion Covid-19, dywedodd Mr Drakeford: "Nid yw rhai o'r pethau yr oeddem yn dibynnu arnyn nhw i ganiatáu i ni gyrraedd 5,000 [o brofion] y dydd wedi eu cyflawni yn ymarferol, yn rhannol oherwydd bod rhai o'r pethau hynny y tu hwnt i'n rheolaeth ni.

"Roeddem yn dibynnu ar offer yn dod i Gymru o dramor. Roeddem yn dibynnu ar rai cemegolion yn dod i Gymru o dramor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dyw'r rheiny heb gyrraedd yn yr amser yr oeddem wedi gobeithio."

Dywedodd fod y llywodraeth wedi "cryfhau ein cynllun profi" yn dilyn adolygiad brys ac y byddai'r fyddin yn eu helpu i gynyddu nifer y profion.

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth am ollwng y targedau profi, gyda Phlaid Cymru'n ei ddisgrifio fel "sgandal".

"Ar ôl gosod targedau uchelgeisiol yn gynnar, rhai roeddwn ni yn llwyr o blaid, dydyn ni rŵan ddim hyd yn oed yn bwriadu profi ar y raddfa mae gwledydd eraill y DU yn bwriadu gwneud," meddai llefarydd y blaid ar iechyd, Rhun ap Iorwerth.

Ychwanegodd Angela Burns o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Nawr yw'r amser ar gyfer tîm penodol i reoli'r broses brofi o'r dechrau i'r diwedd, yn hytrach na'r anrhefn dameidiog rydyn ni'n ei weld ar hyn o bryd."

Adolygu cyfyngiadau

O ran y cyfyngiadau i fywydau pob dydd, dywedodd Mr Drakeford bod y gyfraith yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r rheolau bob tair wythnos.

Dywedodd fod gweinidogion wedi bod yn ystyried y rheolau'n fanwl er mwyn meddwl a oes angen tynhau mewn rhai llefydd, gan gynnwys wrth drin â phobl sy'n teithio i ail gartrefi yng Nghymru.

Ond fe allai'r cyfyngiadau ar ymarfer corff unwaith y dydd gael eu llacio i rai pobl, meddai, gan gynnwys teuluoedd plant ag anableddau dysgu neu awtistiaeth.

Ychwanegodd y byddai angen system wyliadwriaeth a phrofi cymunedol pan oedd y cyfyngiadau yn dechrau cael eu codi yng Nghymru, gyda phobl yn cael eu recriwtio i helpu gyda chwilio ac ynysu unigolion.

Ychwanegodd Mr Drakeford na fydd ysbyty newydd Grange yng Nghwmbrân yn agor yn yr wythnosau nesaf bellach, gan fod capasiti presennol y de-ddwyrain yn "ddigonol ar hyn o bryd".

"Mae digon o wlâu yn y system er mwyn ymdopi," meddai.

Ond fe rybuddiodd nad yw'n amser i orffwys ar ein rhwyfau, wrth i nifer y meirw gynyddu.

"Ddydd Sadwrn fe basion ni garreg filltir drist iawn wrth i nifer y bobl sydd wedi marw gyda coronafeirws basio 500," meddai.

"Dwi byth am ddod i'r cynadleddau yma heb gofio am bob un o'r bywydau yna, a chost ddynol y pandemig yma ar gymaint o deuluoedd Cymru."