Cyhuddo ail ddyn o geisio llofruddio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
![Rhodfa Harris](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/78EC/production/_111865903_6e28af55-c922-4e54-bf31-21bcfa7302f3.jpg)
Cafodd yr heddlu eu galw i Rodfa Harris yn ardal Tredelerch ddydd Llun diwethaf
Mae ail ddyn bellach wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed yng Nghaerdydd.
Fe gafodd Heddlu'r De eu galw i ardal Tredelerch brynhawn Llun, 13 Ebrill, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed.
Dywedon nhw fod y dyn wedi dioddef anafiadau yn dilyn yr hyn maen nhw'n ei gredu oedd ymosodiad gyda chyllell fawr a gwn.
Bydd Kamal Legall, 25 oed o ardal Tyllgoed, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.
Mae dyn arall, Keiron Hassan, 32 o ardal Trelái, eisoes wedi ymddangos yn y llys ar yr un cyhuddiad.
Mae dau ddyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020