Apêl yn dilyn 'nifer uchel o danau gwair bwriadol'
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau tân Cymru'n apelio ar bobl i helpu atal tanau bwriadol yn eu cymunedau wedi i griwiau gael eu galw i ddiffodd tanau gwair mewn sawl ardal.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru nos Lun fod criwiau'n delio â "niferoedd uchel o danau gwair bwriadol" yn y rhanbarth.
Roedd yna rybudd i drigolion gadw eu ffenestri ar gau rhag mwg o danau mynydd mewn dwy ardal yn Rhondda Cynon Taf - uwch ben Heol Parc Dinam, yn Nhonpentre, a Ffordd Sandybank yn Ystrad.
Dywedodd cynrychiolydd ward Pentre ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, Shelley Rees Owen ar ei chyfrif Twitter nos Lun fod tanau "anferthol" yn ardaloedd Ystrad a Thonpentre yn "beryglus o agos at gartrefi pobl" a bod y "mwg yn ofnadwy."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd dros 25 o swyddogion tân eu galw i'r ardal am 18:53 nos Lun, ynghyd â cherbydau arbenigol i gyrraedd y mynydd.
Bu ymladdwyr tân hefyd yn ymateb i fflamau yn ardal Llechryd ger Ffordd Blaenau'r Cymoedd yng Nghwm Rhymni, ar Gomin Llantrisant, ger hen lofa Bryn Cymer ym Maesteg, a Mynydd Llangynidr, Tredegar.
Mae criwiau'n monitro'r sefyllfa yn yr ardaloedd dan sylw ddydd Mawrth.
Arestio tri
Dywedodd Heddlu De Cymru bod tri pherson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol - dyn 19 oed, bachgen 17 oed a merch 16 oed - yn dilyn y digwyddiadau dros nos.
Cafodd y criw eu stopio mewn car toc cyn 05:00 fore Mawrth, ac mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.
"Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd yr aer, gan achosi problemau anadlu a gwaethygu cyflyrau megis asthma," medd Gwasnaeth Tân ac Achub De Cymru mewn datganiad.
"Yn ystod pandemig Covid-19, mae'n hanfodol cadw at gyngor y llywodraeth ar ynysu a phellter cymdeithasol."
Cafodd pedwar o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân mynydd mawr yn Sir Ddinbych nos Lun.
Yn ôl y gwasanaeth, cafodd ardal goediog 300 metr sgwâr o hyd ei losgi yng Nghoed Pen-y-garth, Glyndyfrdwy ger Corwen.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 20:47 ond roedd y fflamau dan reolaeth erbyn 22:41.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae tri gwasanaeth tân ac achub Cymru wedi diolch i bawb sydd wedi cysylltu â nhw yn ddiweddar "gyda gwybodaeth am y rhai hynny sy'n gyfrifol am gynnau tanau anghyfreithlon yn eu cymuned".
Mae'r neges yn rhan o'r apêl am gydweithrediad y cyhoedd i osgoi pwysau ychwanegol diangen ar y gwasanaethau brys yn ystod y pandemig coronafeirws, yn enwedig ers i'r tywydd wella.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020