Coronafeirws: Meddygon yn galw am atal y defnydd o dai haf
- Cyhoeddwyd

Mae uwch feddygon o bob rhan o Gymru wedi galw mewn llythyr agored at y Prif Weinidog i wneud defnyddio ail gartrefi yn ystod y pandemig coronafeirws yn anghyfreithlon.
Yn y llythyr maen nhw'n mynegi pryderon fod teithiau diangen yn "debygol iawn" o gynyddu achosion Covid-19 mewn ardaloedd gwledig.
Maen nhw hefyd yn dadlau fod y rheolau presennol yn "annigonol" o ran gwarchod cefn gwlad Cymru rhag peryglon posib twristiaeth a pherchnogaeth tai haf yn ystod yr argyfwng.
Yng nghynhadledd coronafeirws ddyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, y bydden nhw'n "fwy na hapus" i ystyried pwerau ychwanegol i orfodi perchnogion rhag teithio i'w hail gartrefi yng Nghymru, petai'r heddlu eu hangen.
Cyhoeddodd Mark Drakeford ddydd Llun fod Llywodraeth Cymru'n ystyried cryfhau'r canllawiau'n ymwneud â theithio i ail gartrefi, gan ychwanegu bod bwriad i roi rhagor o fanylion cyn diwedd yr wythnos hon.

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Llun fod tynhau'r cyfyngiadau'n ymwneud ag ail gartrefi dan ystyriaeth
Cafodd y llythyr ei lofnodi gan 15 o glinigwyr sy'n arwain clystyrau iechyd mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae'n dweud: "Mae twristiaeth a defnydd tai haf yn hwyluso symud diangen i ardaloedd gwledig, gan gynyddu'r boblogaeth ac, o'r herwydd, rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd a brys lleol."
Mae'r clinigwyr yn galw ar Mr Drakeford i:
Wneud y defnydd o ail gartrefi'n anghyfreithlon nes bod risg Covid-19 wedi lleihau, hyd yn oed ar ôl dechrau llacio cyfyngiadau symud a theithio mewn mannau eraill o Gymru a'r DU, er mwyn atal "ail don" o achosion;
Ymestyn y mesurau caethiwo yn ardaloedd twristiaeth gwledig mwyaf poblogaidd Cymru, gan dargedu teithio diangen i'r mannau hynny;
Rhoi'r grym i luoedd heddlu Cymru i orfodi pobl sy'n torri'r rheolau i ddychwelyd i'w prif gartrefi.

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Heb y fath gamau, medd llofnodwyr y llythyr, "rydym yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o ail don [o achosion Covid-19] mewn ardaloedd fel gogledd a gorllewin Cymru ar yr adeg waethaf, pan fo gwydnwch staff yn isel a chyflenwadau offer diogelwch personol yn prinhau ledled y byd".
"Rydym yn cydnabod gwerth economaidd twristiaeth, ond ni all hynny fod ar draul iechyd ein poblogaeth wledig," meddai'r llythyr.
"Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n amlygu gwerth datganoli trwy fod yn barod i weithredu mewn modd chwim, arloesol a phendant i warchod pobl Cymru.
"Gadewch i hanes ddangos fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu pan roedd yn cyfrif fwyaf."
'Rhaid gwrando ar y clinigwyr'
Mae llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Sian Gwenllian, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn ymateb i'r llythyr.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wrando ar y clinigwyr a gweithredu'n gyflym i warchod cymunedau lleol yng Nghymru," meddai.
"Ers wythnosau rydym wedi bod yn galw am fesurau llymach i stopio'r unigolion anghyfrifol sydd wedi anwybyddu'r rheolau teithio.
"Rydym yn gofyn i'n harwyr GIG rheng flaen i weithio ddydd a nos, gan beryglu eu bywydau.
"Rhaid i Mark Drakeford a Vaughan Gething wrando arnyn nhw rŵan a gweithredu'n gyflym i'w cadw nhw ac ein hetholwyr yn ddiogel."

Y Gweinidog Economi, Ken Skates, yng nghynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru ddydd Mercher
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r llythyr: "Mae'r rheolau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn caniatáu i bobl adael eu cartrefi am nifer cyfyng iawn o resymau yn unig - sydd ddim yn cynnwys teithio i ail gartref.
"Bydden ni'n parhau i edrych yn fanwl ar y rheolau i weld a oes yna fannau sydd angen eu tynhau neu ble allwn ni wneud newidiadau."
Ategodd Mr Skates hynny yn y gynhadledd newyddion ddyddiol, pan ddywedodd ei bod hi'n "hollol glir y dylai pobl aros yn eu prif gartref heblaw ar gyfer teithiau hanfodol, a dydy teithiau hanfodol ddim yn cynnwys teithio i ail gartref".
Ychwanegodd na ddylai pobl fod yn ymgeisio am gyfnodau preswyl dros dro yn eu hail gartrefi, gan ddisgrifio hynny fel "ymddygiad annerbyniol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020