Carys Eleri: Caru yng nghyfnod Corona

  • Cyhoeddwyd
Carys EleriFfynhonnell y llun, Carys Eleri

Mae'r gwanwyn wedi dod...tymor rhamantus gyda'r blagur ar y coed, yr haul yn tywynnu - a chyfarwyddiadau pendant i beidio fynd yn agos at unrhyw berson tu hwnt i'ch teulu agos.

Her felly ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gariad. Mae'r actores Carys Eleri, sy'n hen law ar siarad am gariad ers ei sioe gomedi Cer i Grafu...Sori...Garu!, yn siarad am y sialens o ffeindio cymar mewn lockdown.

Mae'n debyg fydd hi sbel fach eto tan bod hi'n bosib gadel ein tai yn hyderus a fydd cadw pellter cymdeithasol saff yn orfodol am hir.

Ond er yr holl gyfyngiadau 'ma sy arno ni yn ystod y cyfnod mwya' weird yn ein cof - ma' pobol yn dal i fwynhau datio ar y we. Nutters.

Ond fi yn lico nutters - fi'n un eitha mawr fy hun. Does dim gobaith 'da neb ar hyn o bryd i gwrdda lan am latte neu beint - ma' hyd yn oed cwrdd am lolipop yn stretch.

Ond, wedi gweud hyn mae'n bosib mynd i siop un wrth un, prynu lolipops ac eistedd dwy fedr wrth eich gilydd mewn parc. Ond y realiti yw y byddech chi yn risgio dal neu ledaenu'r feirws. Secsi iawn.

Det ar y tandem

Y'n dating fantasy mwya' i ar hyn o bryd fel rhywun sy'n caru seiclo a sy'n gweld ishe Caerdydd gymaint nawr mod i'n hunan ynysu nôl yn y Tymbl gyda'n fam (fun times), yw cwrdda lan 'da rhywun clyfar, ffyni a hoffus a mynd i Pedal Power sef elusen feicio yng Nghaerdydd lle allen ni (tase fe ar agor) hirio beic tandem a gobeithio i Dduw bod ein saddles ni o leia' dwy fedr ar wahan, a mynd am sbin ar hyd llwybr yr afon Taf, 'da'r gwynt yn ein gwallt.

Bydde fe wedi sgorio pwyntiau ychwanegol os bydde fe 'di dod ag anibacterial spray a kitchen roll i olchi'r beic cyn y daith, a bydde fe deffinet yn colli lot o bwyntie tase fe'n commentio ar ba mor 'iach' wy'n edrych o gymharu a'n profile pics i cafodd eu cymryd cyn y lockdown: 'Nil points cariad.'

Ond siriysli - ma' bod yn agos ag unrhyw fod dynol arall ar hyn o bryd yn freako fi mas. Pan fi'n mynd i'r siop i siopa i fi a mam, fi fel rhyw ninja rili lliwgar a llon gyda menig lledr a face mask. Ma'n rhestr siopa i wedi ei berffeithio so allai fod mewn a mas o'r siop mor gloi a gallai.

Disgrifiad o’r llun,

Carys yn chwarae Myfanwy'r Ficer yn y gyfres Parch ar S4C

Falle'r ffaith mod i mor paranoid mewn siop sydd yn rhoi fi off datio ar hyn o bryd. Plus fi nôl adre yn y Tymbl, Sir Gâr a fi'n itha siwr bo' fi'n nabod pawb a'i frawd 'ma, ac yn perthyn i'r rhan fwya' so….!

Cariad ar y we

Dwi actually heb fentro ati i ddatio ar y we o gwbwl ers tua tair mlynedd bellach. Fi'n ffindo'r holl beth yn super stressful a dryslyd.

Ond ma' sawl ffrind i fi yn mwynhau'r profiad hyd yn oed yn FWY nawr ac yn gweld y sefyllfa yma fel cyfle i wir ddod i nabod rhywun dros gyfnod hir cyn cwrdd, sy'n eitha' old school, a hynny yn eich cartref lle y'ch chi fwya' cyffyrddus.

Ma' un ffrind i fi wedi mwynhau dod i nabod menyw sy'n nyrsio mewn ysbyty lleol ac yn delio gyda covid-19 yn ddyddiol. Ma' hi'n dod adre o'r gwaith ac yn dadlwytho ei dydd arno fe yn ddyddiol, ac mae e'n barod iawn ei glust gyda gwir diddordeb a wastad yn barod i gynnig gwên iddi.

Yr alwad fideo

Mae'n debyg mai'r cam sy'n cael ei gymryd nad odd rili yn cael ei ddefnyddio o'r blaen o ran datio ar y we yw galwadau fideo. Ma' rhai yn ffeindio galwade fideo yn anodd, ond ma'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi dechre dod yn fwy cyffyrddus â'r modd yma o gyfathrebu nawr.

Ar ôl matchio a sgyrsie hir dros negeseuon testun, y cam nesa' yw'r alwad fideo. Ma' ffrind arall wrth ei bodd 'da'r holl beth, achos chi yn hollol relaxed yn eich tŷ, mae'n lot llai o pressure ac os nad y'ch chi'n hoffi'r person ar ôl sbel, mae'n rhwyddach i wrthod y person.

Hefyd, ma'n sicr bod rhywbeth gyda chi i siarad amdano - y pandemic cariad! Wrth gwrs mae e hefyd yn gyfle i gal lot o hwyl - a ie - dim just experimentio gyda ffilters. Whiti-wiw!

Gyda chyn lleied o bethe i neud a dim llefydd i fynd nawr - fi wrth fy modd yn clywed straeon datio yn ystod y pandemic. Ma' ishe hwyl, a fi wrth fy modd gyda'r virtual dramas a'r rhamant.

So pwy a ŵyr, falle gymra i'r plunj ar rhyw bwynt os eith hwn mlaen yn hirach a sgorio det i fynd ar feic tandem unwaith bydd hyn drosodd - gyda saddles agosach wrth gwrs. Ond am y tro, plis rhannwch eich straeon datio - ma' nhw yn cadw fi i fynd!

Hefyd o ddiddordeb