Cysur, galar ac urddas: Cynnal angladd mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae paratoi angladd yn broses anodd a llawn emosiwn ar unrhyw adeg, heb sôn am yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus.
Dyma brofiad tri pherson gwahanol o gynebryngau yn ystod pandemig Covid-19 - mab gollodd ei dad, ymgymerwr a gweinidog.
Mae marwolaeth yn rhan naturiol o waith Hefin Williams, ond mae'n teimlo'n rhy agos iddo'r dyddiau yma.
Am y tro cyntaf yn ei yrfa fel trefnwr angladdau mae'n gorfod ystyried ei ddiogelwch ei hun bob dydd.
Dyna'r realiti i ymgymerwyr ar draws Cymru wrth iddyn nhw barhau i geisio rhoi gwasanaeth teilwng i'r person sydd wedi marw, gan gynnwys pobl sydd wedi marw o Covid-19.
"Doedd dim opsiwn i roi'r gorau iddi, ni'n cario 'mlaen," meddai Hefin Williams, o gwmni OG Harries. "Ni'n cael ein galw y fourth emergency service.
"Ni'n gorfod mynd i mewn i dai pobl sydd wedi marw o'r feirws ac os mae rhywun wedi darfod yn y tŷ, mae'n risg.
"Ni wedi gwneud tri angladd ar hyn o bryd o bobl sydd wedi marw o'r feirws, ond dyw e heb fwrw ni eto - canol mis Mai mae disgwyl i'r feirws bwrw ardal ni, ond gobeithio eu bod nhw'n anghywir.
"Os ydi rhywun yn marw o'r galon, ni dal yn gorfod trin o fel coronafeirws a bod yn ddiogel.
"Bob nos fi'n newid wrth y drws cefn, a syth i mewn i gawod sydd ganddo ni lawr grisiau, a rhoi dillad glan ymlaen. Mae'n anodd i fy ngwraig a'r plant. Maen nhw'n becso amdana i fi - a chi'n rhoi nhw mewn perygl.
"Mae'n stressful iawn dweud gwir. Mae pethau'n newid fesul awr a ni'n dysgu wrth fynd ymlaen."
Does yna'r un sefyllfa debyg wedi bodoli ers i'r cwmni gael ei sefydlu 123 o flynyddoedd yn ôl felly does dim opsiwn ond dysgu o'r newydd, gam wrth gam.
Maen nhw'n dilyn canllawiau'r llywodraeth a'r gymdeithas ymgymerwyr SAIF i geisio lleihau'r risg - yn cynnwys gwisgo cyfarpar diogelwch fel menig, masg, sbectol a gŵn.
Er gwaetha'r pryder mae'r trefnwyr angladdau ym Mhontyberem, ger Llanelli, yn ceisio gwneud y gorau i'r teuluoedd - sydd ddim yn hawdd.
Mae'n gwmni teuluol sy'n ceisio rhoi gwasanaeth personol. Fel rheol byddai rhywun yn mynd i'r tŷ a chael sgwrs ond nid nawr.
"Ni methu mynd allan at y teulu, mae popeth yn cael ei wneud dros y ffôn. Mae'n deimlad rhyfedd i ni," meddai Hefin.
"Mae'n lletchwith ofnadwy, ni'n ffili siglo llaw neu roi hug i'r teulu.
"Mae'n anodd i'r gweinidog hefyd achos maen nhw'n gorfod gwneud popeth dros y ffôn. Ac mae nifer o weinidogion dros eu 70 ac felly methu gweithio ar hyn o bryd. Mae prinder ofnadwy."
Gwasanaethau emosiynol
Un o'r gweinidogion sydd yn dal i gynnal gwasanaethau ydi ei ewythr.
Mae'r Parch Emlyn Dole wedi bod yn gwasanaethu ardal Cwm Gwendraeth ers dros 30 mlynedd, a chanddo ofalaeth o dri chapel.
Fo hefyd ydi arweinydd Cyngor Sir Gâr, ac mae'n cael cyfarfodydd dyddiol gydag arweinwyr holl awdurdodau lleol Cymru a'r Cynulliad am y diweddaraf am sefyllfa'r coronafeirws. Ond mae effaith y cyfyngiadau ar ei waith rhan amser fel gweinidog wedi ei effeithio mewn ffordd fwy amwys na fyddai'r un papur polisi yn gallu ei ragweld.
Dywed bod y capeli, sydd i gyd wedi cau ar hyn o bryd, wedi bod yn dilyn rheolau'r amlosgfeydd o gyfyngu gwasanaethau wrth y bedd i ddim ond yr ymgymerwr a 10 o deulu agos, a phawb i gadw eu pellter.
Gan ei fod o yn byw yn yr ardal ers cyhyd, mae'n adnabod ac yn ffrindiau gyda'r bobl mae'n eu claddu a'r gwasanaethau nawr yn fwy o sialens i'w cynnal.
"Un peth sy'n anoddach rŵan ydi bod rhywun yn cael ei symud yn emosiynol, a dyna'r gamp mewn angladd mewn ffordd ydi peidio torri lawr ac mae'n anoddach peidio nawr," meddai.
"Yn y capel mae'n haws - rydy' ni yn y ffrynt, a'r gynulleidfa o'n blaen ac mae'n digwydd yn awtomatig, ond rŵan does dim torf, dim ond y teulu ac mae'n anoddach i roi'r pellter emosiynol, mae'n fwy personol a thawelach.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd - mae'n anodd. Tydi hynny ddim yn beth gwael, efallai ei fod yn beth da."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ers i'r canllawiau ddod i rym mae o wedi gwasanaethu mewn pum angladd a phan oedd yn siarad gyda Cymru Fyw roedd yn paratoi i gynnal yr un cyntaf o berson oedd wedi marw o Covid-19.
Fel arfer, byddai wedi ymweld â chartref pob teulu i gyd-ymdeimlo a pharatoi at y fendith yn hytrach na sgwrs dros ffôn, fel sy'n digwydd nawr.
Nid fo ydi'r unig un sy'n gorfod cadw draw chwaith, sy'n effeithio'r traddodiad o 'alw draw' i gydymdeimlo sydd yn arferiad cryf mewn nifer o ardaloedd o Gymru.
"Dwi'n cofio pan farwodd fy nhad, mae'n siŵr mod i wedi trafod sut farwodd o tua deugain o weithiau mewn cyfnod byr," meddai. "Erbyn yr angladd rydych chi wedi dod i arfer efo siarad am y peth, chi'n siarad e allan. Ond tydi hynny ddim yn digwydd rŵan. Does neb yn gallu mynd rŵan ac mae hwnnw'n rhan hanfodol o'r broses o alaru."
Cymuned eisiau talu terynged
Mae'r angen i ddangos cefnogaeth a thalu'r deyrnged olaf yn un cryf a chymunedau yn ceisio addasu i'r sefyllfa.
Mewn rhai angladdau diweddar mae aelodau o'r gymuned fyddai wedi mynd i'r cynhebrwng rai wythnosau yn ôl wedi dangos eu parch drwy sefyll yn nrws eu tai wrth i'r hers fynd heibio.
Fe ddigwyddodd ddoe yn angladd Richard Tudor, y ffermwr amlwg o Sir Drefaldwyn fu farw ar ddechrau fis Ebrill wrth weithio ar dir ei fferm.
Os nad oedd yr hers yn mynd heibio tai rhai cyfeillion, roedden nhw'n codi gwydryn o lefrith i gofio amdano am 3pm pan oedd y gwasanaeth yn dechrau.
Ond y rhai sy'n siŵr o gael eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau ydi'r teuluoedd.
Bu farw Keith Williams, o Borthmadog, yn ddiweddar ar ôl i feddygon ddarganfod bod ganddo ganser.
Gan fod y feirws wedi dechrau lledaenu drwy Brydain a'r canllawiau yn newid yn ddyddiol, roedd trefnu'r angladd yn anodd iawn i'w deulu.
Anodd dewis 10
"Mi aeth o fedru cael gathering, i lawr i 25, lawr i 10 ac roedd o'n anodd trefnu pwy oedd yn cael dod efo gymaint o bobl isho dod," meddai Iwan Williams, mab Keith.
"Roedd o'n un o 11, teulu mawr o Borthmadog, a gorfod dweud wrthyn nhw bod nhw ddim yn cael dod, neu yn cael dod ond ddim yn cael dod fewn i'r amlosgfa ei hun.
"Roedd cymaint o bobl yn ffonio isho dod ac yn gyrru negeseuon a ni'n gorfod deud na a ddim isho pobl meddwl mai rheolau fi oedda nhw, yr amlosgfa a'r gyfraith oedd efo'r rheolau."
Aeth bron i 400 o bobl i angladd mam Iwan ddwy flynedd yn ôl, felly mae'n dweud bod y profiad o ffarwelio gyda'i dad yn swreal gan fod cyn lleied wedi gallu mynd.
Er ei fod yn canmol gwaith y cwmni trefnu angladdau mewn cyfnod mor anodd, roedd y cyfyngiadau yn effeithio'r gwasanaeth hefyd meddai:
"Wnaetho ni siarad efo'r amlosgfa - a dim ond chwarter awr oedda ni'n cael bod i mewn, felly roedd y deyrnged mond yn cael bod dau neu dri munud.
"Mond dwy gân, doedda ni ddim yn cael canu'r emyn - roedd yr emyn yn cael ei roi dros chwaraewr CD. Ar ddiwedd y gwasanaeth roedda ni'n dod allan o'r amlosgfa ac roedda nhw'n llnau'r lle o'r top i'r gwaelod yn barod i'r bobl nesa ddod i mewn.
"Roedd o'n anoddach na chynhebrwng mam - doedd dim digon o bobl i ddeud ta-ta."
Hunan-ynysu ar ôl marwolaeth
Mae'r broses o alaru a dod i ddygymod a cholli tad hefyd wedi bod yn wahanol.
Oherwydd y rheolau i aros gartref er mwyn atal lledu'r feirws, roedd rhaid i deulu a ffrindiau gadw draw rhag gweld Keith Williams yn ei ddyddiau olaf.
Roedd Iwan a'i frawd yn cael gweld eu tad - ond yn gorfod hunan-ynysu a chadw draw o'u teuluoedd am 14 diwrnod wedi ei farwolaeth.
Maen nhw'n barod yn cynllunio gwasanaeth i ddathlu ei fywyd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny yn y dyfodol, ac yn gobeithio plannu coeden ym Mhortmeirion drws nesaf i'r un gafodd ei blannu er cof am ei wraig.
"Dwi'n gwybod oedd o isho mynd nôl at ei wraig, at Mam - achos roedd o'n methu hi'n ofnadwy.
"Gafo ni lot o hwyl efo fo tan y munud ola'.... pan gawn ni celebration dwi'n siŵr fydd mwy o wên na dagrau."
Mae Emlyn Dole hefyd wedi addo cynnal gwasanaeth coffa i'r rhai yn ei gymuned fu farw unwaith daw'r argyfwng i ben.
Er hynny, mae'n dweud bod ei brofiad o gladdu ffermwr yn ddiweddar wedi gwneud iddo sylweddoli nad ydi'r cyfyngiadau o reidrwydd yn arwain at angladd llai teimladwy:
"Roedd pawb wrth y bedd, roeddwn i wedi rhoi'r deyrnged fel fydda i fel arfer ei wneud. Ar ddiwedd y fendith, fel arfer mae pawb yn symud at y teulu yn syth i ffwrdd ac o'u cwmpas nhw a dwi'n cerdded i ffwrdd.
"Doedd dim o hynny, dim ond y teulu am ddeg munud wrth y bedd yn sefyll yn dawel, neb yn dweud dim, neb yn siarad. Roedd yn deimladwy iawn - yn syml, ac yn emosiynol."
Ceisio parhau i roi gwasanaeth teilwng fydd Hefin Williams drwy'r cyfnod er gwaetha'r cyfyngiadau.
Bydd yn ceisio cadw ei hun, ei gyd-weithwyr a'r teuluoedd sy'n dod atyn nhw yn ddiogel ac addasu i drefn newydd mae o'n rhagweld bydd yn aros am gyfnod hir.
"Dwi ddim yn gweld angladdau yn mynd yn ôl i normal eleni - fyddwn i'n synnu," meddai.
"Ry' ni'n dweud wrth y teuluoedd ni'n cario mlaen mor normal â ni'n gallu ond ni'n cael ein cyfyngu i be' ni'n gallu gwneud.
"Mae'n anodd iawn colli rhywun unrhyw bryd fel mae, ond mae'n hyd 'noed anoddach ar deuluoedd ar hyn o bryd."
Hefyd o ddiddordeb: