Drakeford: 'Pythefnos i gynllunio profion Covid-19 cymunedol'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Bydd swyddogion iechyd yn treulio'r pythefnos nesaf yn llunio cynlluniau manwl ynghylch sut y bydd profion cymunedol ar gyfer coronafeirws yn gweithio'n ymarferol, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Mae'r cynllun i allu profi am achosion newydd o'r feirws ac yna ynysu'r rhai sy'n sâl yn cael ei ystyried yn allweddol i ganiatáu lleddfu'r cyfyngiadau pob-dydd.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r cynllun yn cynnwys recriwtio pobl i gynnal y prawf ac yna cadw llygad ar y data.

Ond ni ddywedodd faint o bobl fyddai angen eu recriwtio er mwyn cynnal y profion a chadw cofnod o'r data, na faint o brofion fydd eu hangen.

Yr wythnos ddiwethaf fe roddodd Llywodraeth Cymru'r gorau i geisio cyrraedd targed o 5,000 o brofion y dydd.

Mae Llywodraeth y DU yn glynu wrth darged o 100,000 o brofion dyddiol erbyn diwedd mis Ebrill.

'Tasg heriol'

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n cytuno'n bendant y bydd system brofi gymunedol... yn gwbl hanfodol wrth i fesurau cloi gael eu codi'n raddol.

"Yr hyn rydw i'n awyddus i'w wneud yw sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r amser sydd gennym i roi'r system honno ar waith; mae ein Prif Swyddog Meddygol eisoes wedi nodi'r elfennau y byddai eu hangen arnom.

"Rydyn ni wedi gofyn i gydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru lunio cynllun, ac ar ddechrau'r wythnos nesaf byddaf yn gweithio gyda nhw ac eraill i droi'r cynllun hwnnw yn un go iawn, ar lawr gwlad mewn gwahanol rannau o Gymru.

"Felly mae honno'n dasg heriol, yn bendant. Ond pwrpas cyhoeddi fframwaith yw dangos i bobl yng Nghymru nad ydym yn aros am bythefnos, nid ydym yn aros i gyrraedd y pwynt hwnnw i ofyn i ni'n hunain sut y gall hyn ddigwydd."