Rheoliadau teithio newydd 'ddim yn mynd yn ddigon pell'

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd ar yr A40 ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn cadw golwg ar yr A40 yn sgil pryder fod ymwelwyr yn anwybyddu'r cyfyngiadau teithio

O dan reoliadau newydd Llywodraeth Cymru, a ddaeth i rym dros nos, mae gofyn i bobl beidio aros i ffwrdd o'r ardal ble maen nhw'n byw.

Ond mae rhai yn amau a ydy'r pwerau'n mynd yn ddigon pell.

Yn ardaloedd Llanycefn a Llangolman yn Sir Benfro, mae yna gwyno wedi bod yn ystod y cyfnod o gyfyngu ar symudiadau, am bobl yn teithio i'r ardal er mwyn gwersylla, i aros mewn cerbydau neu hunan-ynysu gyda theuluoedd.

Yn ôl Hywel Vaughan, cadeirydd Cyngor Cymuned Mynachlog-ddu a Llangolman, mae yna achosion wedi bod o bobl yn teithio o berfeddion Lloegr i'r ardal er mwyn dianc rhag y feirws.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod ymwelwyr yn parhau i gael eu denu i ardaloedd fel Llanycefn a Llangolman er y cyfyngiadau

"Clywed fod yna bobl wedi symud, ac wedi teithio dros 250 milltir o Loegr," meddai.

"Mae'r heddlu wedi bod gyda nhw, ond unwaith maen nhw wedi cyrraedd, does dim pŵer gyda nhw.

"Ni fel cymuned wedi brwydro yn galed i gadw at y cyfyngiadau ac wedi aberthu llawer.

"Mae 'da ni henoed, a phobl bregus. Y peth diwethaf ni eisiau yw'r feirws i ddod i'r gymuned hon, achos mi fyddai yn cael effaith ddinistriol."

Dywed Mr Vaughan fod pobl wedi achub ar y cyfle i deithio i'r ardal yn ystod y cyfnod tawel yma.

"Yn bendant maen nhw wedi. 'Dw i'n gweld bai - roedd y dirwy ar y dechrau rhy fach. Doedd e ddim yn deterrent."

'Creu tensiwn'

Mae'n teimlo nad yw'r rheoliadau newydd yn mynd yn ddigon pell.

"Mae angen mwy o bwerau. Maen nhw yn mynd i anwybyddu y cyngor a throi lan. Mae'n creu tensiwn yn y gymuned heb angen, a falle bydd e yna am flynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n parhau yn destun pryder i'r Cynghorydd Huw George

Yn ôl y cynghorydd sir dros yr ardal, Huw George, mae angen ailystyried y pwerau sydd ar gael i'r awdurdodau.

"Yn yr ardal hon mae yna bobl wedi dod i fyw a symud at bobl eraill yn ystod y cyfnod 'ma," dywedodd.

"Mae yna bobl wedi dod i aros mewn cerbydau a hawlio tir a dweud bod nhw'n aros yna am gyfnod amhenodol.

"Mae angen bod yn gadarn a dweud does dim hawl mynd o'ch cartref - onibai am hynny, mi fydd ardaloedd fel hyn sydd wedi bod yn gymharol ddiogel, yn mynd i ddioddef."

'20 wedi marw o'r haint yn y sir'

Yn y cyfamser mae prif weithredwr Cyngor Sir Penfro wedi dweud bod ugain o bobl wedi marw o haint coronafeirws yn y sir.

Ar dudalen Youtube y cyngor fe wnaeth Ian Westley gydymdeimlo â'r teuluoedd nos Wener.

Dyw Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi datgan yn swyddogol nifer y marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Mr Westley hefyd bod 390 o staff y cyngor yn sâl a bod 280 yn hunan-ynysu.

Ychwanegodd bod 180 o staff bellach yn gweithio mewn adrannau eraill a bod rhai yn cael hyfforddiant i weithio ym maes gofal cymdeithasol.