Heddlu'n 'anobeithio' wrth weld ymwelwyr yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn "anobeithio" ar ôl i fwy o ymwelwyr gael eu hanfon adref o'r gogledd dros y penwythnos.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod grŵp o 10 wedi gyrru dros 200 milltir o Lundain i gerdded yn Eryri ddydd Sul.
Cafodd y grŵp, mewn dau gar, eu stopio gan yr heddlu ar yr A5 ger Bethesda a'u hanfon yn ôl i Loegr ar ôl torri rheolau cyfyngiadau coronafeirws.
Dringo'r Wyddfa
Cafodd dyn arall ei erlyn wedi iddo gerdded i fyny'r Wyddfa, sydd ar gau ar hyn o bryd.
Roedd aelod o staff yng ngwesty Pen-y-Pass wedi ei herio ar ôl ei weld yn dychwelyd i'w gar ym maes parcio'r gwesty.
Roedd wedi cyrraedd y safle am 06:00 ar ôl teithio o Cumbria.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Roedd y dyn yn filain tuag at yr achwynwr a phan gafodd ei herio roedd yn amlwg yn credu nad oedd y cyfyngiadau'n berthnasol iddo.
"Cafodd yr heddlu eu galw ac fe gafodd ei stopio ar ffordd ddwyreiniol yr A55 gan un o'n timau arfog. Cafodd ei erlyn am dorri'r ddeddfwriaeth.
"Rydym yn anobeithio," ychwanegodd.
Yn y cyfamser mae Heddlu'r De hefyd wedi gorfod gweithredu yn erbyn ymwelwyr oedd wedi dod i'w hardal blismona yn groes i'r ddeddfwriaeth Covid-19.
Dywedodd uned blismona'r ffyrdd yn ardal Aberhonddu fod swyddogion wedi dal dau o ardal Bryste ar yr A47O. Bwriad y ddau oedd cerdded i fyny Pen y Fan.
Cafodd eu ddau eu dirwyo a'u gorchymyn i ddychwelyd i'w cartrefi.
Wrth siarad ar Radio Wales fore dydd Llun, disgrifiodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yr hyn oedd wedi digwydd yn Eryri dros y penwythnos.
Dywedodd: "Fe gewch chi rhai sy'n trio'u lwc bob tro. Fe gafon nhw'u stopio a chael eu cosbi.
"A yw £60 yn ddigon o gosb i atal pobl sy'n teithio o Lundain... dwn i ddim."
Roedd yn bryderus hefyd y gallai cyfyngiadau gael eu codi cyn Gŵyl y Banc ar 8 Mai, ac fe ychwanegodd:
"Rwy'n bryderus na ddylen ni godi cyfyngiadau cyn hynny oherwydd bydd hynny'n rhoi pwysau anferthol ar blismona."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020