'Her fawr' i adfer ffitrwydd ar ôl gohirio gemau
- Cyhoeddwyd
O dan amgylchiadau arferol, fe fyddai Dyfri Owen wedi bod yn brysur iawn yr adeg yma o'r flwyddyn.
Fe yw pennaeth meddygol Clwb Rygbi Caerdydd ond yn hytrach na bod yng nghanol prysurdeb diweddglo tymor Uwchgynghrair Cymru mae holl rygbi'r wlad wedi ei ohirio.
Ac yntau hefyd wedi gweithio fel ffisiotherapydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ers 2005, yn ddiweddar gyda'r tîm dan-21, fe ohiriwyd gemau mis Mawrth yn erbyn Moldofa a'r Almaen.
Mae pandemig Covid-19 wedi rhoi stop ar weithgareddau chwaraeon a chael effaith "anhygoel" ar fusnes ffisiotherapi Dyfri.
YN FYW: Y newyddion diweddaraf am yr haint ddydd Mawrth 28 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
"Mae popeth yn amlwg wedi stopio," meddai. "Mi wnaeth y practis preifat stopio ar ôl i ni gymryd cyngor.
"Hyd yn oed yn gynt na hynny fe wnaethon ni gau ein busnes Pilates, oedd yn brysur iawn, oherwydd roedd hwnna yn grwpiau o 12 o bobl ar yr un pryd.
"Mae hynny i gyd wedi stopio a rŵan 'dan ni yn gweithio ar-lein yn gweld pobl ar fideo, sydd yn wych.
"Ond does dim gêm 'da tîm dan-21 Cymru tan fis Medi a gobeithio y bydd pethau yn ôl i normal bryd hynny."
Her fawr i bawb
Does dim dyddiadau pendant wedi eu gosod ar gyfer pryd fydd modd i chwaraeon ailgydio yn eu tymhorau, gydag amheuaeth ymysg rhai pa mor ymarferol fydd hynny.
Mae Uwchgynghrair Lloegr yn gobeithio ailddechrau ym mis Mehefin gan gwblhau'r tymor ddiwedd Gorffennaf, ac mae chwaraewyr nifer o glybiau wedi dechrau ymarfer ar wahân yn eu canolfannau hyfforddi.
Ond mae Dyfri Owen yn teimlo y bydd hi'n anodd i chwaraewyr adfer eu ffitrwydd a hwythau heb chwarae ers mis Mawrth.
"Mi fydd yn anhygoel o anodd iddyn nhw," ychwanegodd.
"Fel arfer fasa ti'n cael pre-season lle mae'r chwaraewyr yn dechrau yn raddol bach, ac yn gweithio'n galetach ac yn galetach ac yn galetach am oddeutu deufis cyn dechrau chwarae gemau eto.
"Mi fydde nhw wedi bod yn trio eu gorau yn amlwg. Mi fydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw treadmills a bethau gartref.
"Ond does na ddim substitute i chwarae gemau - match fitness yw'r peth pwysig.
"Dwi'n meddwl y bydd lot o'r chwaraewyr yn tynnu fyny am anafiadau pan fydda ni yn trio dechrau chwarae eto.
"Mi fydd o'n broblem mawr, dwi'n meddwl. Mae'n mynd i fod yn her fawr i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2020